O dan d'adenydd di
O dan dy adenydd di

(Ymddiried yn ngras Crist)
  O dan d'adenydd di
  Mae llaeth a mêl yn lli
    Yn llenwi'r llawr,
  Yn afon fawr i ni;
I faethu'r gweiniaid byth yn gu,
A maeddu o'u bron elynion lu,
    Mae hyfryd Frenin Seion,
  Oen tirion, byth o'n tu.

  Fy unig noddfa'n awr,
  I'm lloni ar y llawr,
    A'm gwir iachau,
  Yw clwyfau'r Meichiau mawr;
Caf yno lechu yn dawel lân
Yn Iesu cu, a seinio cân,
    Pan syrthio'r sêr yn gawod,
  A dyfod diluw o dân.

  Hwn ydyw'r un a ddaeth
  I fyny o Edom gaeth,
    O Bozra dir,
  Gorchfygu'n wir a wnaeth;
Yr hwn fu farw ar y pren
Agorodd ffordd i'r nefoedd wen;
    Yr hwn fu'n dioddef dirmyg,
  Yw'r meddyg fyth, Amen.

           - - - - -
         1,2,3,(4,5,6).

  O dan dy adenydd di,
  Mae llaeth a mêl yn lli,
    Yn llenwi i'r llawr,
  Yn afon fawr i ni;
I faethu'r gweiniaid fyth yn gu,
A maeddu o'r bron, elynion lu,
    Mae hyfryd Frenin Seion,
  Oen tirion, fyth o'n tu.

  Fy unig noddfa'n awr,
  I'm lloni ar y llawr,
    A'm gwir iachâu,
  Yw clwyfau'r Meichiau mawr;
Caf yno lechu'n dawel lân,
Yn Iesu cu, a seinio cân,
    Pan syrthio'r sêr yn gawod,
  A dyfod diluw o dân.

  Mae ffynon loyw lawn,
  Yn ffrydìo o ddwyfol ddawn,
    Yn awr i ni,
  Ein golchi ynddi a gawn;
Mae yn y nef ryw dorf yn awr,
A gànwyd ynddi fel y wawr,
    A mîloedd yn cael trwyddi,
  Eu lloni ar y llawr.

  Pa'm 'r ofna'm henaid lu,
  Mae'm cadarn Iesu cu,
    Mewn nefol wlad,
  Ger bron y Tad o'm tu;
Ni cheisia'i'n Dywysog neb ond ef,
Mae'n gadarn graig a noddfa gref,
    Mae'n wastad dros ei bobl,
  Yn eiriol yn y nef.

  Fy Nharian a fy Nhŵr,
  A'm sylfaen gadarn siwr,
    Fy noddfa a'm nerth,
  Mawr ydyw gwerth y gŵr,
A bryna o'i gryd
      i bren y groes,
Rifedi'r sêr trwy lawer loes,
    Dyrchafu'r Brenin Silo,
  Heb flino fyddo f'oes.

  Hwn ydyw'r un a ddaeth,
  I fyny o Edom gaeth,
    O Bozra dir,
  Gorchfygu'n wir a wnaeth;
Yr hwn fu farw ar y pren
Balmantodd ffordd i'r nefoedd wen;
    Yr hwn fu'n dioddef dirmyg,
  Fo'r Meddyg fyth, Amen.
Grawn-Sypiau Canaan 1795/1805

Tôn [6646.8876]: Noddfa (J G Ebeling 1637-76)

gwelir:
  Mae ffynnon loyw lawn
  O Arglwydd trugarha (Er dyfned yw fy mhla)
  Pam 'r ofna'm henaid lu (Mae'm cadarn Iesu cu)
  Teg wawriodd arnom ddydd

(Trusting in the grace of Christ)
  Under thy wings
  There is milk and honey as a flood
    Filling the earth,
  As a great river for us;
To nourish the weak forever dearly,
And beat completely a host of enemies,
    The delightful King of Zion,
  The gently Lamb, is forever on our side.

  My only refuge now,
  To cheer me on the earth,
    And truly to heal me,
  Is the wounds of the great Surety;
There I may hide completely quietly
In dear Jesus, and sound a song,
    When the stars fall as a shower,
  And a deluge of fire comes.

  He is the one who came
  Up from captive Edom,
    From the land of Bozra,
  Overcome truly he did;
He who died on the tree
Opened a way to bright heaven;
    He who suffered scorn,
  Is the physician forever, Amen.

                - - - - -


  Under thy wings,
  There is milk and honey as a flood,
    Filling to the ground,
  As a great river for us;
To nourish the weak forever dearly,
And beat completely, a host of enemies,
    The delightful King of Zion,
  A gentle Lamb, is forever on our side.  

  My only refuge now,
  To cheer me on earth below,
    And truly to heal me,
  Are the wounds of the great Surety;
There I may get to hide wholly quietly,
In dear Jesus, and sound a song,
    When the stars fall as a shower,
  And a deluge of fire comes.

  There is a very bright fountain,
  Streaming from a divine gift,
    Now to us,
  Washed in it we may be;
There is in heaven some throng now,
That were bleached in it like the dawn,
    And thousands getting through it,
  Made cheerful on earth below.

  Why shall my soul fear a host,
  My dear firm Jesus is
    In a heavenly country,
  Before the Father on my side;
I shall seek no Prince but him,
He is a firm Rock and strong Refuge,
    He is constantly for his people,
  Interceding in heaven.

  My Shield and my Tower,
  And my firm, sure Foundation,
    My Refuge and my Strength,
  Great is the worth of the man,
Who redeems from his crib
      to the wood of the cross,
Numerous as the stars through many a pang,
    May exalting the King of Shiloh,
  Without tiring, be my age.

  This is the one who came,
  Up from captive Edom,
    From the land of Bozra,
  Overcome truly he did;
He who died on the tree
Who paved a way to bright heaven;
    May he who suffered scorn,
  Be the Physician forever, Amen.
tr. 2019,25 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~