O Dad! yn enw'r un
Sy 'rioed yn rhyngu'th fodd,
Dy briod Fab dy hun,
'Rwy'n awr yn gofyn rhodd:
Dod ysbryd gweddi im', O Dad!
Dysgwyliaf am d'addewid râd.
Dod gysur im', neu baid,
Iachâ neu gwna fi'n friw;
Ymwêl, neu ymgudd, os rhaid,
Fel mỳnot ti, fy Nuw:
Boed ypryd gweddi ynwy'n nglŷn,
I ddysgwyl d'amser di dy hun.
Yn mhob amgylchiad cul,
Wrth fyn'd trwy'r anial maith,
Mewn gorthrymderau fil,
O cynnal fi ar fy nhaith:
Hyd angeu ddydd, O Arglwydd, gâd
Im' nerth i lefain, Abba Dad.
Dysgwyliaf am :: Ymbwysaf ar O cynnal fi :: O dal fi gâd // Im' nerth i lefain :: gâd // Im' allu llefain Tôn [666688]: Bryniau Canaan (alaw Gymreig) |
Father! in the name of the one
Who was always pleasing thee,
Thy very own Son,
I'm now asking for a gift:
Give a spirit of prayer to me, O Father!
I wait for thy gracious promise.
Give comfort to me, or not,
Heal or make me wounded;
Visit, or hide, if necessary,
As thou dost insist, my God:
May a spirit of prayer be fast in me,
To await thine own time.
In all straitened circumstances,
While going through the vast desert,
In a thousand oppressions,
O support me on my journey:
Until the day of death, O Lord, leave
Me strength to cry, Abba Dad.
I wait for :: I lean on O support me :: O hold me leave // Me strength to cry :: let // Me be able to cry tr. 2020 Richard B Gillion |
|