O cyfod 'fynu f'enaid byw
O cyfod 'nawr fy enaid byw

(Gwaredigaeth a Cadwriaeth oddiwrth Elynion ysprydol)
O cyfod 'fynu, f'enaid byw,
A gorfoledda yn dy Dduw;
  Fy nhafod deffro, a seinia 'ma's
  Ar led ei ogoneddus ras.

Fy nghodi o bydew pechod wnaeth,
A phyrth agored uffern gaeth;
  Sicraodd fy sefyllfa'n well
  Nag oedd cyn i mi gwympo 'mhell.

Rhoes freichiau'i fythol gariad dan
Fy enaid llesg blinedig gwan;
  Ac fry ar Graig yr Oesoedd gref
  Fy nhraed rhag llithro osododd ef.

Dinas fy nedwydd drigfan i,
A muriau gras amglchwyd hi;
  Ac iechydwriaeht cadarn gre'
  Fel caer i gadw'r sanctaidd le.

Gall Satan chwythu'i falais llym,
A'i luoedd ruo ā'u holl rym;
  Trugaredd Duw a'm
      ceidw o'r nef,
  Ac ettyl ei gynddaredd ef.

O cyfod fynu, f'enaid byw,
A'm tafod cān fawl hoff i'th Dduw,
  A seinia Haleluia 'nawr,
  I'm Prynwr mwyn a'm Brenin mawr.
Pigion o Hymnau &c. 1808
             - - - - -

O cyfod 'nawr fy enaid byw,
A gorfoledda yn dy Dduw;
  Fy nhafod deffro a seinia ma's
  Ar led ei ogoneddus ras.

Rho'es freichiau bythol gariad dan
Fy enaid llesg, blinedig, gwan;
  Ac fry ar Graig yr oesoedd gref
  Fy nhraed, o'i ras, osododd ef.

Dinas fy nedwydd noddfa i
A muriau gras amgylchwyd hi 
  A seinio wnaf - Hosana'n awr
  I'm Prynwr mwyn a'm Brenin mawr.
Cas. o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841

[Mesur: MH 8888]

gwelir: Dyrchafwn uchel Glod yn awr

(Deliverance and Preservation from spiritual Enemies)
O rise us, my living soul,
And rejoice in thy God;
  My tongue awake, and sound out
  Abroad his glorious grace.

Raise me from the pit of sin he did,
And the open gates of captive hell;
  He secured by standing better
  Than it was before I fell so far.

He put the everlasting arms of love under
My weak, feeble, exhausted soul;
  And upon the strong Rock of Ages
  My feet from slipping he set.

The city of my happy dwelling,
With the walls of grace was surrounded;
  And strong, firm salvation
  Like a citadel to keep the sacred place.

Satan can blow his keen malice,
And his hosts roar with all their force;
  The mercy of God shall
      keep me from heaven,
  And obstruct his wrath.

O rise up, my living soul,
And my tongue, sing fond praise to thy God,
  And sound Hallelujah now,
  To my dear Redeemer and my great King.
 
                 - - - - -

O arise now, my living soul,
And rejoice in thy God;
  My tongue awake and sound out
  Abroad his glorious grace.

He put the everlasting arms of love under
My weak, feeble, exhausted sou;
  And upon the strong Rock of Ages
  My feet, by his grace, he set.

The city of my happy refuge
With the walls of grace was surrounded;
  And sound I shall - Hosanna now
  To my dear Redeemer and my great King.
tr. 2025 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~