O Arglwydd dàl fy enaid tlawd
Rhag syrthio'n wawd cyhoeddol:
Dod nerth i g'odi
bob rhyw awr,
Groes Iesu mawr grasusol.
Gwna fi yn ffyddlawn yn fy oes,
Dan bob rhyw
groes a chystudd;
Gan dreiddio drwy'r anialwch maith,
I'm nefol daith yn ufudd.
Myfi'n cael lluniaeth er fy lles,
A chynnhes glydwych annedd:
Ona bu, mae'n debyg, Faban Mair
Mewn gwely gwair yn gorwedd!
I'm cadw rhag pob gelyn cry',
Dy ofal sy'n feunyddiol;
I dalu'n ol dy gariad i'm,
Ni feddaf ddim sy' fuddiol.
Amddiffyn bywyd 'r wyt bob pryd,
I mi mewn byd amserol;
Ysgarfydd, gwylio'r corph o'r llaid
Y bydd Gwarcheidwaid nefol.
Dan bob rhyw drallod īs y rhod
I'm enaid dod amynedd;
Fel yn dy Winllan, bob rhyw bryd,
'Blodeuwyf hyd y diwedd.
Myfi sydd gyfeiliornus iawn, -
Mae f'Unduw'n llawn addfwynder:
I erfyn nawdd a chymmorth rhad
Af at fy Nhad mewn hyder.
Dymunaf gymmorth i barhau,
Ar hyd fy nyddiau'n addas;
Fel y gorphwyswyf, ddydd a ddaw,
Ar ddeheulaw'r Messeias.
David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822Corph y Gaingc 1810 [Mesur: MS 8787] |
O Lord, keep my poor soul
From falling into public scorn:
May strength come to raise
every kind of hour,
The cross of great, gracious Jesus.
Make me faithful in my age,
Under every kind
of cross and affliction;
While penetrating through the vast desert,
To my heavenly journey obedient.
Myself getting provision for my benefit,
And a warm, brilliantly-cosy dwelling:
There was, likely, the Babe of Mary
In a bed of straw lying!
To keep me from every strong enemy,
Thy care is daily;
To pay back thy love to me,
I possess nothing which is beneficial.
Defending life thou art every time,
For me in a temporal world;
Perhaps, watching the body from the mire
Shall be heavenly Guardians.
Under every kind of trouble below the sky
For my soul to become patience;
As in thy Vineyard, every kind of time,
I will blossom until the end.
I am very prone to stay, -
My One-God is full of gentleness:
To petition for protection and free help
I will go to my Father confidently.
I will ask for help to continue,
Along my appropriate days;
Thus I shall lie, on the day to come,
On the right hand of the Messiah.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|