O Arglwydd, clyw fy llef,
A gwel fy eisiau mawr;
O doed i nef y nef
Fy ngweddi attat nawr;
Gostwng dy glust a chlyw fy nghri
O'th fawr drugaredd gwrando fi.
Pechadur wyf, O Dduw,
Pechadur mawr a drwg,
Pechadur gwaetha'n fyw
Yn haeddu'th gyfiawn wg;
O maddeu mai, o maddeu'n rhad,
O maddeu 'nawr, drugarog Dad!
'Rwy'n halogedig iawn,
Yn aflan oll i gyd,
O lygredd du yn llawn -
Tan orthrwm faich o hyd;
O golch fi'n lān, O golch fi'n wỳn
Yn ffynon fawr Calfaria fryn.
Ac yna dal fi'n lān
Tra b'wyf mewn anial fyd,
Nes cefnwyf yn y man
Ar groesau'r llawr i gyd,
Ac esgyn fry ar aden gref,
I'th ganmol byth
yn nheyrnas nef.
William Davies 1820-75
[Mesur: 666688] |
O Lord, hear my call,
And see my great needs;
O may my prayer come to thee
In the heaven of heaven now;
Incline thine ear and hear my cry,
Of thy great mercy listen to me.
A sinner I am, O God,
A sinner great and evil,
The worst sinner alive
Deserving thy righteous frown;
O forgive my fault, O forgive freely,
O forgive now, merciful Father!
I am very contaminated,
All unclean altogether,
Full of black corruption -
Under an oppressive burden always;
O wash me clean, O wash me white
In the great spring of Calvary hill.
And then keep me clean
While ever I am in a desert world,
Until I turn my back in a while
On all the crosses of the earth below,
And ascend above on strong wings,
To extol thee forever
in the kingdom of heaven.
cyf. 2025 Richard B Gillion
|
|