O Anghrediniaeth clyw,
Na flina'm henaid llaith,
Tragwyddol gariad Duw,
A'm dwg i ben fy nhaith:
Pam 'r ofnaf lu? mi af ymla'n,
Trwy ddw'r a thân i'r Ganaan fry.
Er bod gelynion hy'
Am gongc'ro'm henaid gwan,
Addawodd Iesu cu
Y byddai byth o'm rhan;
Pa'm 'r ofnaf lu? &c.
Er cael fy rhwystro'n hir,
Trwy ddichell Satan gaeth,
Feddiannu'r hyfryd dir
Sy'n llifo o fel a llaeth:
Pa'm 'r ofnaf lu? &c.
P'le mae'r 'ddewidion rhad,
A ffyddlon eiriau Duw?
A seliwyd oll â gwaed
O galon Iesu gwiw;
Pa'm 'r ofnaf lu? &c.
Arweiniodd ef fi maes
O'r dyrus anial dir,
A ball ef mwy ei ras
Im dwyn i Seion bur?
Pa'm 'r ofnaf lu? &c.
Fy ffyddlon nerthol Frawd
A'm Ffrynd yw'r Iesu cu,
Fe arwain f'enaid tlawd
I fryn Caersalem fry:
Pa'm 'r ofnaf lu? &c.
Caf weld Iorddonen faith
Yn dal ei dyfroedd du,
'N rhoi lle i'm henaid llaith
I'r etifeddiaeth fry:
Pa'm 'r ofnaf lu? &c.
William Williams 1717-91Aleluia 1749 |
O Unbelief, hear!
Do not grieve my timid soul,
The eternal love God,
Shall lead me to my journey'd end:
Why shall I fear a host? I shall go on,
Through water and fire to the Canaan above.
Although haughty enemies
Want to conquer my weak soul,
Dear Jesus promised
He would forever be on my side;
Why shall I fear a host? etc.
Although long getting frustrated,
Through the captive scheme of Satan,
Possessing the delightful land
That is flowing with honey and milk:
Why shall I fear a host? etc.
Where are the gracious promises,
And the faithful words of God?
That are all sealed with blood
From the heart of worthy Jesus;
Why shall I fear a host? etc.
He led me out
From the troublesome desert land,
And shall his grace ever fail
To lead me to pure Zion?
Why shall I fear a host? etc.
My faithful, strong Brother
And my Friend is dear Jesus,
He will lead my poor soul
To the hill of Jerusalem above:
Why shall I fear a host? etc.
I shall get to see vast Jordan
Holding back its black waters,
Giving way to me timid soul
To the inheritance above:
Why shall I fear a host? etc.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|