O angeu! pa le mae dy golyn?
O uffern! ti gollaist y dydd!
Y Baban a anwyd yn Methle'm
Orchfygodd bob gelyn y sydd;
Ni raid i blant Seion
ddim ofni
Myn'd adref dan ganu i'w gwlad -
Eu ffordd sydd yn rhydd tuag yno,
A hono gysegrwyd ā gwaed!
Mae'r ddaear yn cilio o'm golwg,
A'r nefoedd yn agor o'm blaen -
Mi glywaf soniarus delynau
Angylion yn beraidd eu cān;
Seraphiaid, rhowch fenthyg adenydd,
Mae f'enaid am hedeg i'ch plith!
O angeu! pa le mae dy golyn?
O uffern! ni lwyddi di byth!
i'w gwlad :: tua'u gwlad Eu ffordd sydd :: Mae_eu ffordd hwy gysegrwyd :: agorwyd :: balmantwyd
Tonau [9898D]: |
O Death, where is thy sting?
O Hell, thou hast lost the day!
The Baby who was born in Bethlehem
Overcame every enemy there is;
There is no need for Zion's children
to fear anything
Going home while singing to their land -
Their way is free towards there,
And this was consecrated with blood!
The earth is retreating from my view,
And the heavens are opening before me -
I can hear resounding harps
Of angels who have a sweet song;
Seraphim, lend ye wings,
My soul wants to fly to your midst!
O Death, where is thy sting?
O Hell, thou shalt never succeed!
:: :: was consecrated :: was opened :: was paved tr. 2013,17 Richard B Gillion |
|