1 O! Adda gynt dan felldith aeth,
A'i holl hiliogaeth ynddo'n gaeth,
Trwy dòri y cyfammod pur,
Marwolaeth ini ddaeth yn wir;
Ond clod i'r Arglwydd Dduw,
Fe gaed Gwaredwr gwiw,
O! ryfedd, ryfedd ras,
Hosannah 'nawr, o hyn i ma's.
2 Er i'r hen ddraig ein cael i lawr
Dan d'wllwch du, fe gododd gwawr;
Addewid gaed o
Had y Wraig,
Yn gadarn, do, i ddryllio'r ddraig;
Mab Duw y Nef ei hun,
Trwy gynghor Tri yn Un,
Ef, Ef ei hun a ddaeth,
I'n codi ni o'n cyni caeth.
3 Tosturiodd wrth bechadur tlawd,
Addawodd dd'od i wisgo cnawd,
A d'od ei hun i'r daear hon,
Yn blentyn bach i sugno bron;
Ond fe arosodd Ef
Yn hir o fewn y Nef,
Cyn, cyn ei hun y daeth, -
Ymddangos trwy'r cysgodau wnaeth.
4 Fe welodd Abraham ei ddydd,
A llawenhau a wnaeth trwy ffydd,
Gan dd'weyd, "Fy Isaac a gaiff fyw;
I'w hun, yn deg, fe edrych Duw
Am Oen yr
aberth hardd,
Addewid Eden ardd;"
Hon, hon a'i daliodd e
Rhag ymwallgofi yn y lle.
5 A Jacob, wedi hyny'n wir,
A gafodd arno olwg glir, -
"Y Siloh mawr a ddaw ryw ddydd,
Ac ato cynnull pobloedd fydd;"
Yn fuan wedi hyn
Y gwelwyd Iesu gwyn,
Fel, fel rhyw seren glir, -
O Jacob deuai hon yn wir.
6 Gosodwyd cyfraith wedi hyn,
Hon a gysgodai'r Iesu gwyn;
A'r holl aberthau ynddi i gyd,
Ddangosent bur
Iachawdwr byd;
Yr hwn a ddo'i o'r Ne',
Yn aberth yn eu lle,
Oen, Oen difai i Dduw,
A'i waed i olchi dynol-ryw.
7 Nid all'sai'r holl aberthau i gyd,
Na'r gwaedu llawn ddim dofi llid
Gofynion pur
cyfiawnder Duw,
A hawl y gyfraith
berffaith wiw;
'Doedd ar y ddaear lawr
Un aberth digon mawr;
Na, na, yr oedd pob dyn
Mewn dyled mwy na'r
byd ei hun.
8 Pryd hyny'r arfaeth berffaith, bur,
Gyflawnodd ei haddewid wir;
Daeth y trag'wyddol, fywiol Dduw,
Yn nghnawd a natur dynol-ryw;
Esgorai'r Forwyn Fair
Ar y tra'wyddol Air;
Clywch, clywch, ar foreu clir,
Newyddion ddaeth i
Fethle'm dir,
9 Fod pur Enneiniog
mawr y Ne'
Yn y cadachau'n wael ei le,
A'r preseb isel oedd ei gryd,
Ac yntau'n Ben-Rheolwr byd;
Ond 'roedd angylion Nef
Yn ei addoli Ef;
Daeth, daeth nefolaidd lu
I seinio cân i'n Iesu cu.
10 Ac, O! mor beraidd oedd eu cân
Y boreu ganwyd Iesu glân!
"Fugeiliaid, clwch - nac ofnwch dim -
Caed Ceidwad ichwi mawr ei rym;
Tangnefedd pur yn awr
Sydd ar y ddaear lawr;
Crist, Crist yr Arglwydd yw, -
Gogoniant i'r goruchaf Dduw."
11 Wel, canwn ninau iddo 'nawr,
A gwnawn ryfeddu'i gariad mawr
Yn gadael pur drigfanau'r Ne',
I dd'od dan felldithyn ein lle;
O! syndod mawr yn wir,
Creawdwr môr a thir,
Mewn, mewn tylodi mawr,
Heb ganddo le'i roi'i ben i lawr!
12 Wel, dyma ddifrad gariad gwiw,
Neu ddoniol ras i ddyno-ryw,
Yn lle'r llawenydd,
hylwydd hawl,
A'i glodydd gwych
y'ngwledydd gwawl,
Daeth er ein mwyn ni'n dlawd,
I ddyoddef poen a gwawd;
Ca'dd, ca'dd ar hyd ei oes,
Ofidiau'n grwn hyd
bren y groes.
13 A dyna'r fan,
O! cofwn mwy,
Dyoddefodd drosom farwol glwy',
Pan yn hoeliedig ar y pren,
A'r goron ddreiniog ar ei ben;
Gorphenodd, talodd iawn
I'r gyfraith berffaith lawn;
Pur, pur gyfiawnder Duw
Foddlonwyd yn ei aberth gwiw.
14 Nid hanner gwaith a wnaeth ein Iôr,
Yn ngolwg gwiw angylaidd gôr,
Ond gorphen iachawdwriaeth lawn
A wnaeth, wrth farw un prydnawn;
Er myn'd i'r bedd dan gudd,
Cyfodai'r trydydd dydd;
Do, do, fe ddaeth yn fyw, -
Iachawdwr a Gwaedwr yw.
15 Mae'n awr yn eirol gyda'i Dad,
Ar sail ei aberth
mawr a'i wa'd,
Dros bechaduriaid o bob rhyw, -
Mae ganddo fodd i'w cadw'n fyw;
A galw, heb wahân,
Mae 'nawr ar fawr a mân;
Ffown, ffown ar aden ffydd,
I gwlyfau'n Meichiau,
dyma'r dydd.
16 Boed in' ymostwng wrth ei draed,
A chanwn am ei werthfawr waed;
I'n Iesu glân,
O seiniwn glod,
Gogoniant byth tra'r nef yn bod;
Mae'n deilwng o bob bri, -
Bu farw drosom ni;
Boed, boed ein Iesu'n ben, -
I'w enw mwy boed mawl. Amen.
John William Hughes (Edeyrn ap Nudd) 1817-49
Tôn [88.88.66.68]: Galar Gwyr Ffrainc (hen alaw) |
1 Oh, Adam of old went under a curse,
And all his race in him captive,
Through breaking the pure covenant,
Mortality to us came truly;
But acclaim to the Lord God,
A worthy Deliverer was got,
Oh, wonderful, wonderful grace,
Hosannah now, from henceforth.
2 Despite the old dragon's getting us down
Under black darkness, a dawn has risen;
A promise had from
the seed of the Women,
Firmly, yes, to smash the dragon;
The Son of the God of heaven himself,
Through the council of Three in One,
He, he himself has come,
To raise us from our captive straits.
3 He had mercy on a poor sinner,
He promised to come to wear flesh,
And come himself to this earth,
As a little child to suck a breast;
But He tarried
Long within Heaven,
Before, before he himself came, -
Appear through the shadows he did.
4 He saw Abraham's day,
And rejoice he did through faith,
Saying, "My Isaac shall get to live;
To himself, fairly, he saw God
For the Lamb of
the beautiful sacrifice,
The promise of the garden of Eden;"
This, this has kept him
From going mad in the place.
5 And Jacob, after this truly,
Got a clear look at him, -
"The great Shiloh to come some day,
And to whom peoples will gather;"
Soon after this
Was seen blessed Jesus,
Like, like some clear star, -
From Jacob he would come truly.
6 A law was fixed after this,
It would foreshadow blessed Jesu;
And all the sacrifices in it altogether,
Would show the pure
Saviour of the world;
The one who would come from Heaven,
As a sacrifice in their place,
A Lamb, a faultless Lamb to God,
And his blood o wash human-kind.
7 Not all the sacrifices altogether could,
Nor the full bleeding tame the wrath
Of the demands of the pure
righteousness of God,
And the claim of the perfect,
worthy law;
There was not on the earth below
One sacrifice great enough;
No, no, every man was
In a debt greater than
the world itself.
8 Then the perfect, pure purpose
Fulfilled his true promise;
The eternal, living God,
In the flesh and nature of human-kind;
The Virgin Mary would give birth
To the eternal Word;
Hear, hear, on a clear morning,
News which came to
the land of Bethlehem,
9 That the great, pure Anointed One
of Heaven was
In cloths, base his place,
And the lowly manger was his crib,
And he the Head-Manager of a world;
But the angels of heaven were
Worshipping Him;
There came, came a heavenly host
To sound a song to our dear Jesus.
10 And, oh, how sweet was their song
The morning holy Jesus was born!
"Shepherds, hear! - fear nothing! -
A Saviour is had for you of great force;
Pure peace now
Is on the earth below;
Christ, Christ the Lord he is, -
Glory to the most high God."
11 See, let us also sing to him now,
And lt us wonder at his great love
Leaving the pure residences of Heaven,
To come under a curse in our place;
Oh, truly great surprise!
The Creator of sea and land,
In, in great poverty,
Without anywhere to lay down his head!
12 See, here is worthy, guileless love,
Or bountiful grace to human-kind,
In place of the joyful,
prosperous claim,
And its excellent praises
in the lands of light,
He came for our poor sakes,
To suffer pain and scorn;
He got, got throughout his lifespan,
Griefs roundly as far as
the wood of the cross.
13 And here is the place, oh,
let us remember evermore,
He suffered for us a mortal wound,
When nailed on the cross,
With the thorny crown on his head;
He finished, paid a satisfaction
To the perfect, full law;
The pure, pure righteousness of God
Was satisfied in his worthy sacrifice.
14 It is not a half-work that our Lord did,
In the sight of a worthy, angelic choir,
But finish full salvation
He did, by dying one afternoon;
Despite going to the grave hidden,
He would rise on the third day;
He did, did, he came alive, -
Saviour and Deliverer he is.
15 He is now interceding with his Father,
On the basis of his great
sacrifice and his blood,
For sinners of every kind, -
He has a means to keep them alive;
And a call, without distinction,
There now is on great and small;
Let us flee, flee on wings of faith,
To the wounds of our Surety,
this is the day.
16 May we bow at his feet,
And let us sing of his precious blood;
To our holy Jesus,
oh let us sound praise,
Glory forever as long as heaven exists;
He is worthy of every honour, -
He died for us;
Let our Jesus be, be head, -
To his name evermore be praise. Amen.
tr. 2014 Richard B Gillion
|
|