Ni wela'i gyfaill ar y llawr,
Ond Iesu mawr ei hun,
All gyd-ymdeimlo bob yr awr
A mi annheilwng ddyn.
Mewn myrdd o gyfyngderau bu
Yn Gyfaill ffyddlon im':
Y'nghanol gwendid lawer gwaith,
Chwanegodd i mi rym.
Ni fedda' y'ngwyneb calon ddu,
Ddim ond cyfiawnder nef;
Ni feddaf ddeall,
dysg, na dawn,
Mae'r cwbl ynddo ef.
Fe bery ei ffyddlondeb ef,
Pan dreulio'r nefoedd wen;
Yr ochor hyn a'r ochor draw,
Boed Iesu byth yn Ben.
- - - - -
Ni wela'i gyfaill ar y llawr,
Ond Iesu mawr Ei hun,
All gydymdeimlo bob yr awr
 mi, annheilwng ddyn.
Mewn myrdd o gyfyngderau bu
Yn Gyfaill ffyddlon i'm;
Ynghanol gwendid lawer gwaith,
Fe roddodd i mi rym.
Ffarwell bob eilun dan y nef! -
Efe yw'r Cyfaill da
All ddàl fy enaid llesg i'r làn,
A'm gwared o bob pla.
Tragwyddol glod i'r annwyl Oen
A ladwyd ar y pren;
Efe sydd deilwng o bob clod -
Bydd arnaf byth yn Ben.
Morgan Rhys 1716-79
Tonau [MC 8686]: |
I see no friend on the earth,
But great Jesus himself,
Who can sympathise every hour
With me an unworthy man.
In a myriad of straits he was
A faithful Friend to me:
In the midst of weakness many times,
He added to me strength.
I possess in the face of a black heart,
Nothing but the righteousness of heaven;
I possess no understanding,
learning or talent,
The whole is in him.
His faithfulness will continue,
When the bright heavens wear out;
This side and yonder side
May Jesus forever be Head.
- - - - -
I see no friend on the earth,
But great Jesus Hmself,
Who can sympathise every hour
With me, an unworthy man.
In a myriad of straits he was
A faithful Friend to me:
In the midst of weakness many times,
He gave to me strength.
Farewell every idol under heaven! -
He is the good Friend
Who can hold my feeble soul up,
And deliver me from every plague.
Eternal praise to the beloved Lamb
Who was slain on the tree;
He is worthy of all praise -
May he be over me forever as Head.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|