Nesawn, nesawn
Mewn myfyrdodau pur,
At fwrdd ein Harglwydd,
I gydgofio'i gur;
A rho'ed y Brenin
Mawr ar hyn o bryd
Ei ŵyneb hoff,
Tra byddom yma 'nghyd.
O! am gael ffydd
I gydfwynhau y wledd,
'Does neb o'i bath
I'w chael tu yma i'r bedd;
Y cariad mawr,
A unodd Duw a dyn,
Sy yma'n awr,
Yn gwneyd y saint yn un.
Diolchwn am
Y portreadau hyn,
I droi'n myfyrdod
I Galfaria fryn;
Coffawn y dryllio
Mawr dan wg y ne' -
Coffawn y gwaed,
Dywalltwyd yn ein lle.
[Diolch a wnawn
Am yr arwyddion hyn
I droi ein meddwl
At yr Iesu gwyn;
Coffawn yr aberth
Mawr a wnaeth efe,
Coffawn y gwaed,
Dywalltwyd yn ein lle.]
Pwy all anghofio'r
Cwpan rhyfedd iawn,
O soriant Duw
Ac uffern dỳn yn llawn?
"Y cwpan hwn"
A yfodd Crist o'i fodd,
A nef i ni
Drwy hyn a barotôdd.
Ymwystlwn oll
I'n Brenin, o un fryd,
I ddwyn y groes
Gan herio gwawd y byd;
Na chaed ein Harglwydd
Un yn gwisgo rhith
Na hunan dwyllwr
Yma yn ein plith.
O nerth i nerth,
Yr awn mewn newydd hwyl,
Nes d'od yn nghyd
At fwrdd y nefol ŷyl:
O! ddedwydd saint
Ymlonnwch yn gytûn,
Os da yw hyn,
Beth fydd y nef ei hun?
'Does neb :: 'Does un Sy yma'n awr :: Sydd yma nawr William Ambrose (Emrys) 1813-73
Tonau [10.10.10.10]: |
Let us draw near, draw near
In pure meditations,
To the table of our Lod,
To remember together his pain;
And may the great King
Bestow nowadays
His dear face,
While we are here together.
O to get faith
To enjoy together the feast,
There is nothing of its kind
To be had this side of the grave;
The great love,
Which united God and man,
Is here now,
Making the saints one.
Let us give thanks for
These portrayals,
To turn our meditation
To Calvary hill;
Let us remember the great
Harrowing under heaven's frown -
Let us remember the blood,
Poured out in our place.
[Thanks let us give
For these signs
To turn our thought
To blessed Jesus;
Let us remember the great
Sacrifice he made,
Let us remember the blood,
Poured out in our place.]
Who can forget the
Very wonderful cup,
Of the indignation of God
And fierce hell full?
"This cup"
Which Christ drank voluntarily,
And heaven for us
Through this he provided.
Let us all pledge
To the King, of one intent,
To carry the cross
Challenging the scorn of the world;
May our Lord not have
Anyone wearing hypocrisy
Nor a self-deceiver
Here among us.
From strength to strength,
Let us go with new enthusiasm,
Until coming together
To the table of the heavenly festival:
O happy saints!
Cheer each other in agreement,
If this is good,
What shall be heaven itself?
:: :: tr. 2016 Richard B Gillion |
|