Nefol Dad, erglyw ein gweddi
Wrth ŵynebu'r flwyddyn hon,
Mae'n hamserau yn dy ofal,
A'n helyntion ger dy fron;
Dyro brofi
Hedd dy gariad, doed a ddêl.
Nefol Dad, er gwaetha'n blinder
Pan fo'r daith
yn siomi'n bryd,
Ninnau'n amau dy ddaioni
Ac yn credu'n hofnau i gyd,
Dyro brofi
Hedd dy gariad, doed a ddêl.
Nefol Dad, wrth gerdded rhagom
I unigedd ambell awr,
Wedi colli llawer wyneb
A fu'n llonni llwybrau'r llawr,
Dyro brofi
Hedd dy gariad, doed a ddêl.
T Eirug Davies 1892-1951
Tôn: Dwyfor (alaw Eidalaidd) |
Heavenly Father, listen to our prayer
While facing this year,
Our times are in thy care,
And our courses before thee;
Grant us to experience
The peace of the love, come what may.
Heavenly Father, despite our exhaustion
When the journey be
disappointing our mind,
We doubt thy goodness
And believe all our fears,
Grant us to experience
The peace of the love, come what may.
Heavenly Father, while walking onward
To loneliness several times,
Having lost many a face
That cheered the paths of earth below,
Grant us to experience
The peace of the love, come what may.
tr. 2022 Richard B Gillion
|
|