Nid fy nef yw ar y ddaear

(Gras a dedwyddwch yn Nghrist)
1,2,3;  1,3,(4),5;  1,3,4,5,6.
Nid fy nef yw ar y ddaear,
  Pe goreu man
      dan gwmpas haul:
Fy nef yw tawel bresennoldeb
  Wyneb siriol Adda'r ail:
Gwena arnaf, Arglwydd grasol,
  Gwaeddaf allan, Digon yw;
Yna 'nghanol cyfyngderau
  Byth yn llawen byddaf byw.

Gwnes y dewis goreu wneuthpwyd,
  Dewis Brenin nefoedd wen -
Yn Dad, yn Briod, ac yn Gyfaill,
  Yn Frawd, yn Geidwad, ac yn Ben;
Cyfoeth mawr didrai, difesur,
  Sydd yn nghadw i mi'n stôr,
A bendithion oll, pe rhifid,
  Megys tywod mân y môr.

Môr sydd ynot o fendithion
  Heb waelodion iddo'n bod;
Mae yn llanw 'mlaen bob munyd,
  Nid oes diwedd ar dy glod;
D'enw beunydd sy'n helaethu —
  Beunydd yn ymdaenu i maes;
Bydd telynaun canu iddo
  Fel rhifedi gwellt y maes.

Yn dy glwyfau y mae bywyd,
  Tyllau'r hoelion yw fy nyth;
'D ofnaf fyd, na
    chnawd, na phechod,
  Nac euogrwydd yno byth:
Gwaed fy Mhriod wedi ei golli,
  Archoll fawr y waywffon,
Yw fy nghraig a'm dinas noddfa
  Sicr ar y ddaear hon.

Yno boed fy mwyd am diod,
  Dan ganghenau gwych y pren
Sydd â'i wreiddyn ar y daaear,
  Ei frigau yn y nefoedd wen;
Dyn â'r Duwdod ynddo'n trigo, 
  Ffrwythau arno'n tyfu'n llawn;
Cysgod dano i'r ffyddloniaid
  O foreuddydd hyd brydnawn.

Dedwydd yw sy'n berchen arnat,
  Dedwydd yfo o dy hedd,
Gallant chwerthin fyth wrth weled,
  Cynghrair satan fawr a'r bedd;
Bydd breninoedd mewn cadwynau
  'N llechu'n isel tan eu traed,
Hwy ar ddeheu'r Oen yn moli,
  Wedi dod trwy
      rin y gwaed.

            - - - - -

Nid fy nef yw ar y ddaear,
  Pe y goreu man dan haul;
Ond fy nef yw presenoldeb
  Siriol wyneb Adda'r ail:
Gwena arnaf, Arglwydd grasol,
  Gwaeddaf allan, digon yw;
Yna 'nghanol cyfyngderau
  Fyth yn llawen byddaf byw.

Arglwydd Iesu, rho im' feddu
  Gwedd dy wyneb,
      digon yw;
Nefoedd f'enaid gwan yw gweled
  Gwedd dy wyneb Di, fy Nuw.
Gwedd dy wyneb yw fy mywyd,
  Gwedd dy wyneb yw fy hedd,
Gwedd dy wyneb ydyw'r cwbwl
  Yma a thu draw i'r bedd.
William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Edinburgh (Frederick A G Ouseley 1825-89)
Gaerwen (Lowell Mason 1792-1872)
Jewin Street (<1835)
Moriah (alaw Gymreig)

gwelir:
  F'enaid gwêl i ben Calfaria
  Henffych Iesu'r Duw tragwyddol
  Iesu llawnder mawr y nefoedd
  Llawen ydwyf fod dy hanfod
  Mae yr oriau yn fy ngalw
  O fy enaid gwan nag ofna
  Tyrd i fynu o'r anialwch

(Grace and happiness in Christ)
 
My heaven is not on the earth,
  If the best place were
      under the compass of the sun:
My heaven is the quiet presence
  Of the cheerful face of the second Adam:
Smile upon me, gracious Lord,
  I will shout out, Sufficient he is;
Then in the midst of straits
  Forever cheerfully I shall be living.

I made the best choice every made,
  The choice of the King of bright heaven -
As Father, as Spouse, and as Friend,
  As Brother, as Saviour, and as Head;
A great, unebbing, immeasurable wealth,
  He is keeping for me in store,
With all blessings, if numbered,
  Like the fine sand of the sea.

A sea there is in thee of blessings
  Without there being any bottom to it;
It is flowing onwards every minute,
  There is no end to thy praise;
Thy name daily is broadening -
  Daily spreading out;
Harps shall be playing to him
  Numbered like the grass of the field.

In thy wounds is my life,
  The holes of the nails are my nest;
I will fear neither world,
    nor flesh, nor sin,
  Nor guilt there ever:
The blood of my Spouse having been spilled,
  The great wound of the spear,
Is thy rock and my city of refuge
  Secure on this earth.

There may my food and drink be,
  Under the brilliant branches of the tree,
Which has its root on the earth,
  Its twigs in the blessed heavens;
Man with the divinity in it dwelling,
  Fruits upon it growing full;
Shade under it for the faithful
  From morning until evening.

Happy is one who belongs to thee,
  Happy to drink of thy peace,
They may laugh forever on seeing,
  The league of great satan, and the grave;
The kings shall be in chains
  Crouching lowly under their feet,
They on the right of the Lamb praising,
  Having come through the
      merit of the blood.
  
                - - - - -

My heaven is not on the earth,
  Even if the best place under the sun;
But my heaven is the presence
  Of the cheerful face of the second Adam:
Smile upon me, gracious Lord,
  I will shout out, Sufficient he is;
Then in the midst of straits
  Forever cheerfully I shall be living.

Lord Jesus, grant me to possess
  The countenance of thy face,
      sufficient it is;
The heaven of my weak soul is to see
  The countenance of Thy face my God.
The countenance of thy face is my life,
  The countenance of thy face is my peace,
The countenance of thy face is the whole
  Here and beyond the grave.
tr. 2106,17 Richard B Gillion
 

 









I made the best choice ever made -
  The choice of the King of bright heaven,
As Father, as Spouse, and as Friend,
  As Brother, as Saviour, and as Head:
Great wealth, unebbing, unending,
  Is kept for me in store,
And blessings, all if it were counted,
  Like the fine sand of the sea.
tr. William Williams 1717-91

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~