Ni droesom draw o dref
Gan ado'r bywyd gwell;
A chrwydro is y nef
I geisio'r borfa bell;
O! Fugail da, arafa'n hynt,
A dwg ni'n ôl i'r llwybrau gynt.
Mewn lludded blin a loes,
Diffygiem yn y gwaith;
Ac ofnem, dan ein croes,
Rhag methu ar y daith;
O! Feddyg da, iachâ ein briw,
Ac yn dy gryfder gad in fyw.
Mae llanw gwan ein ffydd
Yn wir ar amal drai;
Ac ni thyr arnom ddydd
Heb inni fynych fai;
O! Farnwr da, yn nydd y praw,
N'ad inni fod ar d'aswy law.
Richard Samuel Rogers 1882-1950
Tôn [666688]: Dolgellau (alaw Gymreig) |
We did not turn away from home
Leaving the better life;
And wander under heaven
To seek the distant pasture;
O good Shepherd, slow our course,
And bring us back to the former paths.
In grievous exhaustion and anguish,
We would fail in the work;
And we would fear, under our cross,
Lest fainting on the journey;
O good Physician, heal our bruise,
And in thy strength let us live.
The weak tide of our faith is
Truly often ebbing;
And no day breaks upon us
Without our often sinning;
O good Judge, in the day of testing,
Do not let us be on thy left hand.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|