Mi godaf f'egwan lef
At Iesu yn y nef,
A rhoddaf bwys fy enaid dwys
I orffwys arno ef;
Caf ynddo ras
o hyfryd flas,
A mwyn gymdeithas Duw;
Ei nerth a rydd yn ôl y dydd,
Ei olau sydd ar lwybrau ffydd:
'Rwyf beunydd iddo'n byw.
Mae ei ddiddanwch drud
Yn difa swyn y byd
Yn llwyr i mi;
'dyw rhwysg a bri
Yn ddim ond gwegi i gyd:
Daw hedd i'm bron
fel dwyfol don,
O'i dirion gariad ef;
Mi glywaf gôr ar risial fôr,
A gwelaf ddôr tangnefedd Iôr
Yn agor yn y nef.
Ben Davies 1864-1937
Tôn [66.86.86.886]: Gorfoledd |
I will raise my weak cry
To Jesus in heaven,
And lean my intense soul
To rest on him;
I may have in him the grace
of a delightful taste,
And the gentle fellowship of God;
His strength he will give after the day,
His light will be on the paths of faith:
I shall daily in him live.
His dear comfort is
Vanishing the enchantment of the world
Completely for me;
splendour and fame are not
Anything but tottering altogether:
Peace comes to my breast
like a divine wave,
Of his tender love;
I hear a choir on the crystal sea,
And I see the Lord's eternal door
Open in heaven.
tr. 2012 Richard B Gillion
|
|