Mi gefais amser da,
A hwnw'n para'n hir,
Yn hwn ni wnes ddiaoni ddim,
Mae'n gweddu_im' ddweyd y gwir;
'Rwy' rŵan yn llesgâu,
Ac yn gwanhau o hyd,
Oddi_yma ar fyr i ryw le'r âf,
Ni byddaf yn y byd.
Os edrych wnaf yn ol,
Och! mor anfuddiol f'oes,
A chwilio_am ryw gysuron im',
I'w ganfod dim nid oes;
Oddi wrth yr hyn a wnes
Er dilyn proffes deg,
Mwy fyrdd o weithiau ydyw pla
Fy nghalon na fy ngheg.
Ni feddaf ddim yn awr,
ond syrthio_i lawr yn syn,
Os rhaid myn'd tan ddigofaint Duw,
Fy haeddiant ydyw hyn;
A dweyd yn dda am Dduw,
Mai cyfiawn ydyw ef,
Er dwyn digofaint ar fy mhen,
Tros byth yn absen nef.
'Dwy'n disgwyl yn y byd
Fawr hawddfyd yn fy rhan,
Mi golla'r pethau goreu_i gyd,
A mywyd yn y man;
Os daw maddeuant im',
Nid er mwyn dim y daw,
Ond o drugaredd Duw i gyd,
Y troir y drygfyd draw.
Mi glywais mai trwy fydd,
(O dyna newydd da)
Y gall pechadur dd'od yn rhydd,
Er blined fydd ei bla;
A chael ei gyfiawnhau,
Er fod ei feiau'n fawr,
Trwy gael cyfiawnder
Iesu pur,
I'w wisgo'n deg ei wawr.
Cyfiawnder cyfrifedig
Mab Duw, yw'r unig rodd
A wna fy enaid aflan
Yn fuan wrth ei fodd;
Y wisg a
guddia'm noethder
Yw ei gyfiawder fyth,
Pan ddelo dydd y cyfri,
Mi safaf ynddi'n syth.
Edward Jones 1761-1836
[Mesur: MBD 6686D] |
I got a good time,
And this continuing long,
In this I did no good thing,
It is fitting for me to tell the truth;
I am now growing feeble,
And weakening always,
Away from here shortly to some place I go,
I shall not be in the world.
If look I do backwards,
Oh! How unprofitable my lifespan,
And search for some comforts for me,
To find that there is none;
Away from what I have done
In order to follow a fair profession,
Myriads of times greater is the plague
Of my heart than my mouth.
I am capable of nothing now,
But falling down suddenly,
If I need to go under the wrath of God,
My claim is this;
And say well about God,
That righteous is he,
Despite bringing wrath on my head,
Forever in the absence of heaven.
I do not expect in the world
Great bliss for my part,
I will lose all the best things,
And life soon;
If forgiveness should come to me,
Not for the sake of anything to come,
But all from the mercy of God,
Yonder evil-world is to be turned.
I heard that through faith,
(Oh, here is good news)
A sinner can come free,
Despite how grievous will be his plague;
And get justified,
Although his faults be great,
Through getting the righteousness
of pure Jesus,
To wear it with a pleasant appearance.
The accounted righteousness of
The Son of God is the only gift
Which will make my uncean soul
Soon satisfied;
The clothing which shall
cover my nakedness
Is his righteousness forever,
Whenever the day of accounting comes,
I shall stand in it straight.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|