Mi debygaf clywaf heddiw
Swn caniadau draw o bell,
Torf yn moli am waredigaeth,
Ac am ryddid llawer gwell;
Gynau gwynion yw eu gwisgoedd,
Palmwydd hyfryd yn eu llaw,
A hwy ant gyda gogoniant
Mewn i'r bywyd maes o law.
Minnau bellach orfoleddaf
Fod y Jiwbil fawr yn dod,
A chyflawnir pob sillafyn
A lefarodd Iesu erioed;
De a gogledd yn fyrddiynau,
Ddaw o eithaf
tywyll fyd,
Gyda dawns ac utgyrn arian,
Mewn i Salem bur ynghyd.
William Williams 1717-91
Tonau [8787D]:
gwelir: Mewn anialwch 'rwyf yn trigo |
Most likely I will hear today
A sound of songs from afar,
A multitude praising for deliverance,
And for freedom much better;
White robes are their garments,
Lovely palm-branches in their hand,
And they will go together with glory,
Into life soon.
I too henceforth will be jubilant
That the great Jubilee is coming,
And every syllable is to be fulfilled
Which Jesus ever spoke;
South and north in myriads
Come from the extreme
darkness of the world,
With dance and silver trumpets,
Into pure Salem together.
tr. 2009 Richard B Gillion
|
|