Mewn priodas gynt yn Nghana
Buost, Iesu mawr, dy Hun;
Rho dy bresenoldeb yma
Lle y rhwymir dau yn un.
O'th fodlonrwydd daw cysuron
A dedwyddwch yn y byd;
Ac â'th gariad yn y galon
Y bydd serch yn bur o hyd.
Dysg hwy'n dyner iawn i feithrin
Dy rasusau ar y daith;
Yn eu cartref bydd yn Frenin,
Hwythau'n ffyddlon yn dy waith.
Aros, Iesu, gyda'r ddeuddyn,
Dyro iddynt nawdd dy groes;
A'th dangnefedd fo'n eu dilyn
Tra parhao
dyddiau'u hoes.
J Machreth Rees 1855-1911
Tonau [8787]: |
At a wedding once in Cana
Thou wast, great Jesus, Thyself;
Grant thy presence here
Where two are to be bound as one.
From thy pleasure may comfort and
Happiness come in the world;
And with thy love in the heart
The affection shall be always pure.
Teach them very tenderly to foster
Thy graces on the journey;
In their home be thou King,
Be they faithful in thy work.
Stay, Jesus, with the couple,
Grant them the protection of thy cross;
And thy peace be following them
While ever the days of
their lifespan endure.
tr. 2018 Richard B Gillion
|
|