Meddyliau tragwyddol o hedd
Gyrhaeddodd fy ngofid a'm cwyn;
Meddyliau yn sôn am y wledd
Ddarparodd fy Nuw er fy mwyn;
Fe'm gwelodd mewn cadwyn yn gaeth,
Yn druan ac aflan fy llun;
Ond cofio am danaf a wnaeth
Er mwyn Ei ogoniant Ei Hun.
Er gorwedd yn hir yn fy ngwaed,
A'm natur yn gyndyn a ffol,
Cyfamod tragwyddol a wnaed
I brynu fy mywyd yn ôl;
Mae cariad yn codi ei lef
Am faddeu
anwiredd fy oes:
A gwelaf fwriadau y nef
Yn oleu yn ymyl y groes.
Ni chyfyd cyfiawnder ei gledd
I daro fy enaid i lawr;
Mae dwyfol feddyliau o hedd
Yn hawlio fy mywyd yn awr;
Er gwario yn ofer fy nawn
Mae digon i gwrdd â fy rhaid,
Caf dynnu o gyfoeth yr Iawn,
A'r Iesu Ei Hun o fy mhlaid.
Mi ganaf yn ngrallod y byd
Yn wyneb addewid fy Iôr,
Mae heddyw i lonni fy mryd
Drugaredd a gras fel y môr;
Clodforaf Ei enw am hyn
Wrth ddisgyn i lawr tua'r bedd,
Mae'r storm yn distewi'n y glyn
Yn sŵn y meddyliau o hedd.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
Tôn [8888D]: Ebbw Vale (R C Jenkins 1848-1913) |
Eternal thoughts of peace
Reached my grief and my complaint;
Thoughts mentioning the feast
My God prepared for my sake;
He saw me in chains a captive,
A wretch with my unclean appearance;
But remember me he did
For the sake of His own glory.
Although lying long in my blood,
With my nature stubborn and foolish,
An eternal covenant he made
To buy back my life;
Love is raising its cry
For the forgiving
of the falsehood of my age:
And I see the purposes of heaven
In the light beside the cross.
Righteousness will not raise its sword
To strike down my soul;
Divine thoughts of peace are
Claiming my life now;
Despite spending vainly my gift
There is sufficient to meet my need,
I may draw from the wealth of the Atonement,
With Jesus Himself on my side.
I will sing in the world's trouble
In the face of my Lord's promise,
There is today to cheer my mind
Mercy and grace like the sea;
I will extol His name for this
While going down to the grave,
The storm is growing quiet in the vale
In the sound of the thoughts of peace.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|