Mawr y gwelir Duw'n ei gyfraith,
A'i gofynion cyfiawn perffaith;
Deil feddyliau dirgel dynion,
Y dirgela o fewn y galon.
Yn 'r efengyl gwela'i fawredd!
Mawr o gariad a thrugaredd;
A thrwy fawr ddoethineb eglur,
Codi, a chadw, gwael bechadur.
Mawr y'mhob man, mawr ryfeddol!
Ond y'ngolwg dyn anianol;
Mawr amynedd Duw'n ei arbed,
Achos galar,
na fae'n gweled!
Hyfryd waith y Côr nefolaidd,
Ydyw edrych ar ei fawredd;
Bwrw i lawr goronau beunydd,
A dwëyd bob awr,
mai mawr yw'r Arglwydd.
Thomas Williams 1772-, Rhes-y-cae.Cas. o dros 760 o Hymnau (D Jones) 1826 [Mesur: 8888] gwelir: Rhan I - Mawr yw'r Argwydd mawr a rhyfedd Rhan II - Trefn y rhôd a geir yn rhedeg Rhan III - Mawredd Duw nid oes ei debyg |
Great is God to be seen in his law,
And its righteous, perfect demands;
He holds the secret thoughts of men,
The most secret within the heart.
In the gospel see his greatness!
Great of love and mercy;
And through great, clear wisdom,
Raising, and keeping, a base sinner.
Great in every place, greatly wonderful!
But in the sight of a natural man;
The great patience of God in saving him,
A cause of lamenting,
that he should see him!
The delightful work of the heavenly Choir,
Is to look upon his greatness;
To cast down crowns daily,
And say every hour,
that great is the Lord.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|