Mawr ddyled arnom sydd
I foli Iôr y nef,
Wrth weld o ddydd i ddydd
Mor dirion ydyw ef;
Ef yw ein craig, ein twr
a'n maeth;
Y flwyddyn hon ein cofio wnaeth.
Ni all tafodau byw
Holl ddynol-ryw yn un
Fyth ddatgan gymaint yw
Ei gariad ef at ddyn;
Efe sy'n darpar, ar ei ran,
Ei nerth a'i fywyd ymhob man.
O cydfoliannwn Dduw
Am drugareddau rhad,
A gweld dirioned yw
Ei ofal am ein gwlad;
O boed i'n henaid dduwiol ddawn
I ganmol Duw â chalon lawn.
Casgliad Samuel Roberts 1841
Tonau [666688]: |
There is a great obligation upon us
To praise the Lord of heaven,
As we see from day to day
How tender he is;
He is our rock, our tower
and our nourishment;
This year made our remembrance.
Not all the living tongues
Of humankind as one can
Ever declare how great is
His love towards man;
He is providing, on his part,
His strength and his life everywhere.
O let us praise God together
For free mercies,
And see how tender is
His care for our land;
O may there be diving gifts to our soul
To praise God with a full heart.
tr. 2009 Richard B Gillion
|
|