1a.
Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau,
Iesu, yn dy farwol glwy';
Trwy dy loes, dy gur,
a'th angeu,
Caed trysorau fwy na mwy;
Nis gall cerub byth, na seraph,
Lawn fynegu gwerth yr Iawn
Roddwyd drosom gan Gyfryngwr
Ar Galfaria un prydnawn.
[1b.
Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau,
Iesu, yn dy farwol glwy';
Ac yn swm y gair
Gorphenwyd,
Mae trysorau fwy na mwy;
Nid all Cerub, nid all Seraph,
Byth fynegu gwerth yr Iawn,
Roddaist drosom i gyfiawnder
Ar Galfaria un prydnhawn.]
2.
Pwy all fesur maint ei gariad
A rhinweddau maith ei ras?
Nid angylion, er eu doniau,
Na holl seintiau daear lâs:
Môr didrai, heb waelod iddo,
Sydd yn chwyddo byth i'r lan;
Nofia miloedd ynddo'n hyfryd
Draw i'r bywyd yn y man.
Daniel Jones 1788?-1848
Tonau [8787D]: gwelir: Iesu pwy all draethu'th gariad? |
1a.
There are some myriad of wonders,
Jesus in thy mortal wound;
Through thy anguish, thy beating,
and thy death,
Let treasures be got more than more;
No cherub can ever, nor a seraph,
Fully express the worth of the Ransom
Given for us by the Mediator
On Calvary one afternoon.
[1b.
There are some myriad of wonders,
Jesus in thy mortal wound;
And in the sum of the word
"It is finished",
There are treasures more than more;
No Cherub can, no Seraph can,
Ever express the worth of the Ransom
Thou gavest for us to be justified
On Calvary one afternoon.]
2.
Who can measure the extent of his love
And the vast virtues of his grace?
Not angels, despite their talents,
Nor all the saints of blue-green earth:
An unebbing sea, with no bottom to it
Is swelling up forever;
Thousands shall swim in it delightfully
Yonder to the life soon.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|