Mae'r anialwch [wedi mlino / wedi'm blino]

(Deisyfiad hiraethlon am ddihangfa i'r wlad dawel)
Mae'r anialwch wedi mlino,
  Chwant sydd arnaf wel'd y tir,
Roddwyd i mi gan fy Arglwydd,
  Cadarn mewn addewid wir;
Gwlad o oleuni heb dywyllwch,
  Gwlad o gariad heb ddim trai,
Gwlad heb hawddfyd na phleserau,
  Ond yn unig dy fwynâu.

O dyrchaf'm henaid egwan,
  Y mae bellach yn hwyrâu;
Hir yw'r amser i och'neidio,
  Gwna fi o'r diwedd lawenâu:
Gorphwys gronyn bach a chanu,
  Yn rhydd o'm holl ofidiau i gyd,
Yn y man och'neidio a griddfan,
  Yw fy mywyd yn y byd.

Dysgwyl pethau gwych i ddyfod,
  Croes i hyny maent yn d'od;
Meddwl foru daw gorfoledd,
  Foru'r tristwch mwya' erioed;
Meddwl byw ac etto marw,
  Yw'r lleferydd dan fy mron,
Bob yn ronyn mi rof ffarwel,
  Ffarwel glân i'r ddaear hon.

Trag'wyddoldeb mawr yw d'enw,
  Ti mae'n debyg yw fy lle,
Un dros ddiwrnod ydwyf yma,
  Fry mae nghartre' yn y ne';
Mae'm diwrnod bron a gorphen,
  Mae fy haul bron myn'd i lawr,
Mae pob awel yn fy chwythu,
  Tua'r trag'wyddoldeb mawr.

           - - - - -
(Duw yn ddgon yn angau)
1,2,3,(4,5,6).
Mae'r anialwch wedi'm blino,
  Chwant sydd arnaf wel'd y tir,
Roddwyd i mi gan fy Arglwydd,
  Cadarn mewn addewid wir;
Gwlad o oleuni heb dywyllwch,
  Gwlad o gariad heb ddim trai,
Gwlad heb hawddfyd na phleserau,
  Ond yn unig ei fwynhau.

P'odd yr af fi trwy'r Iorddonen,
  Oni ddeui Di dy Hun
Yno i dori grym y tònau,
  Ac i sefyll wrth fy nghlun?
Dal fy mhen i'r lan yn gadarn,
  Pan fo'r Angeu'n
      fawr ei rym,
Pleidia yn eon yn ei wyneb,
  Pan na b'wyf yn gallu dim.

N'ad i bechod fy nghoncwero,
  Tra b'wyf ar y ddai'r yn byw,
N'ad e'm rhwstro i gymdeithasu
  Yn fynych mynych â fy Nuw;
N'ad ei fod yn awr marwolaeth
  Megys mynydd mawr o blwm,
Pan b'wyf am ddiengu fyny,
  I fy ngwasgu lawr yn drwm.

'Run yw 'Meichiau, a fy Mhrynwr,
  A fy Mrenhin, a fy Nuw;
Od oes neb a'm gwna yn ddedwydd,
  Efe ei hun yn unig yw:
Nid yw'r holl greauriaid isod,
  O ba enwau maent i gyd,
Yn abl rhoddi dim esmwythder,
  Pe baent yn cyttuno 'nghyd.

Daccw'r un sydd a thosturi,
  Fe fu'n hongian ar y groes,
Fe fu'n griddfan dan dywyllwch,
  Tywyllwch dudew fel y nos:
Mil o boenau wasgodd arno,
  Etto darfu iddo eu dwyn,
Aeth i garchar gan yr angeu,
  Ran o dridiau er fy mwyn.

On' chaf fywyd ynddo ei hunan,
  Darfu im' obeithio mwy;
Nid oes dim ond gwaed ei galon,
  All yn unig wella 'nghlwy:
Mawr yw'm poen heb gael ei gwmp'ni,
  Mwy dymunol yw nâ'r byd,
Rhosyn Saron yw f'Anwylyd,
  'Does ond tegwch ynddo i gyd.
i bechod fy nghoncwero :: fy mhechod i'm congcwero

1762 William Williams 1717-91

Tôn [8787D]: Jersey (alaw Gymreig)

gwelir:
  Dacw'r Un sydd a thosturi
  Dyma'r byd y mae taranau
  Mae rhyw foroedd o drugaredd
  Mi edrychaf ar i fyny
  O derchafa'm henaid egwan
  O na chlywn yr utgorn arian
  O ynfydrwydd O ffolineb
  Pa'm y caiff bwystfilod rheibus?

(Longing petition to escape to the quiet land)
The desert has wearied me,
  I have a desire to see the land,
It was given to me by my Lord,
  Secure in a true promise;
A land of light without darkness,
  A land of love without any fading,
A land without happiness or pleasure,
  But only to enjoy thee.

O raise my weak soul,
  It is now getting late;
Long is the time for groaning,
  Make me at last to rejoice:
To rest a tiny bit and to sing,
  Free from all my worries altogether,
For a while groaning and moaning,
  Is my life in the world.

Awaiting brilliant things to come,
  Contrary to this they are coming;
To think tomorrow comes jubilation,
  The morn of the greatest ever sadness;
To think of living and yet dying,
  Is the utterance under my breast,
Bit by bit I bid farewell,
  A complete farewell to this earth.

A great eternity is thy name,
  Thou similarly art my place,
Just for a day am I here,
  Above is my home in heaven;
The day is almost finished,
  The sun is almost going down,
Every breeze is blowing me,
  Towards the great eternity.

               - - - - -
(God sufficient in death)
 
The desert has wearied me,
  A desire is upon me to see the land,
It was given to me by my Lord,
  Firm in a true promise;
A country of light without darkness,
  A country of love without any ebbing,
A country without happiness or pleasure
  Except to enjoy thee alone.

How shall I go through the Jordan,
  Unless Thou come Thyself
There to break the force of the waves,
  And to stand by my thigh?
Hold my head up firmly,
  Whenever there be Death
      with its great force,
Pleading fearlessly in its face,
  When I am not at all able.

Do not let sin conquer me,
  While ever am on the earth living,
Do not let it hinder socialising
  Often, often with my God;
Do not let it be an hour of death
  Like a great mountain of lead,
When I am escaping up,
  To press me down heavily.

The same is my Surety, and my Redeemer,
  And my King, and my God;
If there is no-one who makes me happy,
  He himself alone is:
All the creatures below,
  Of whatever name they all are,
Are unable to give me relief,
  Even if they were all in agreement.

Yonder is the one who has mercy,
  He who hung on the cross,
He who groaned under darkness,
  Thick black darkness like the night:
A thousand pains pressed upon him,
  Still is was that he bore them,
He went to prison under death,
  For a portion of three days for my sake.

Except that I have life in him himself,
  Hope had perished for me anymore;
There is nothing but his heart's blood,
  Alone that can heal my wound:
Great is my pain without his company,
  More desirable it is than the world,
The Rose of Sharon is my Beloved,
  There is only fairness all in him.
::

tr. 2008,23 Richard B Gillion

 

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~