Mae ofnau yn finteioedd llawn,
Rai creulawn iawn eu rhyw,
Yn taeru yn fy wyneb gwan
Na feddaf ran yn Nuw.
A minnau yn llyfrhau yn lân,
Heb wybod ffordd i droi;
Nac ysbryd genyf ' fyn'd y'mlaen,
Nac ysbryd genyf ' ffoi,
Chwilio, a manwl chwilio'r wyf,
Ar aswy ac ar dde;
Ac etto methu symud cam
I fynu tu a'r ne'.
O edrych arnaf, Arglwydd mawr,
Mae bellach yn brydnawn;
O llanw yr euog, tlawd, sy heb ddim,
A'th nefol ddwyfol Ddawn.
Rho brawf o'r
gwin wasgwyd i maes,
O'r bêr winwydden fry,
Fel gallwyf fythol lawenhau
Yn dy ogoniant di.
Nac ... genyf ' fyn'd y'mlaen :: Nac ... geny' i fentro 'mlaen genyf ' ffoi :: geny' i ffoi A'th :: O'th fythol lawenhau :: fyth i lawenhau
Tonau [MC 8686]: gwelir: O tyred Arglwydd saif wrth raid |
There are fears in full droves,
Some of a very cruel kind,
Insisting to my weak face
That I have no part in God.
And I losing heart completely,
Without knowing which way to turn;
Nor having a spirit to go onwards,
Nor having a spirit to flee.
Searching, and carefully searching I am,
On the left and on the right;
And still failing to move a step
Up towards heaven.
O look upon me, great Lord,
It is now afternoon;
O fill the guilty, poor, who have nothing,
With thy heavenly, divine Gift.
Grant an experience of the
wine pressed out,
Of the sweet vine above,
Thus may I forever rejoice
In thy glory.
Nor having ... to go onwards :: Nor having ... to venture onwards :: With thy :: From thy :: tr. 2018 Richard B Gillion |
|