Mae llais y durtur eto
Yn felus yn y wlad:
O! Dduw, yr wyt yn cofio,
Dy etifeddiaeth fad!
Daeth amser pêr yr adar
I ganu yn y coed;
A mil mwy mwyn
yw trydar
Dy wanwyn nag erioed.
Fe aeth y gaeaf heibio,
A chiliodd trymder gwlaw;
O! Dduw yr wyt yn cofio
Dy dir â'th dyner law:
Mae blodau ar y ddaear,
Mae bywyd yn y coed;
A mil mwy mwyn
yw trydar
Dy wanwyn nag erioed.
Rho ar dy etifeddiaeth,
Fel yn y dyddiau gynt,
Gawodydd bendith helaeth
Ar flaen y deau wynt;
Ymwêl â'r anial diroedd -
Gweddnewid hwynt i gyd;
A gad i flodau'r nefoedd
Ddwyn Eden dros y byd.
mwy mwyn :: mwynach John Jenkins (Gwili) 1872-1936
Tonau [7676D]: |
The voice of the turtle dove is again
Sweet in the land:
O God, thou art remembering
Thy virtuous heritage!
The sweet time came for the birds
To sing in the wood;
And a thousand times more
enjoyable is the twitter
Of Thy spring than ever.
The winter has passed,
And the heaviness of rain retreated;
O God, thou art remembering
Thy land with thy gentle hand:
There are flowers on the earth,
There is life in the wood;
And a thousand times more
enjoyable is the twitter
Of Thy spring than ever.
Impart to thy heritage
As in the former days,
Widespread showers of blessing
Before the south wind;
Visit the desert lands -
Transform them all;
And let the flowers of heaven
Bring Eden across the world.
:: tr. 2014 Richard B Gillion |
|