Mae dafn bach o waed
Yn drymach yn y nef
Na'r pechod mwyaf gaed,
A'i holl euogrwydd ef:
Gwrandewir llais y dwyfol glwy'
O flaen eu damniol floeddiad hwy.
Ni chollwyd gwaed y groes
Erioed am ddim i'r llawr;
'Ddioddefwyd angeu loes
Heb ryw ddibenion mawr;
A dyma oedd Ei amcan Ef -
Fy nwyn o'r byd
i deyrnas nef.
N'ād imi garu mwy
Y pechod drwg ei ryw -
Y pechod roddodd glwy'
I 'Mhrynwr, O fy Nuw!
N'ād imi garu dim ond Ti
O'r ddae'r i
eitha'r nefoedd fry.
William Williams 1717-91
Tonau [666688]: gwelir: Dyoddefaint Iesu Grist Mae'r ffordd yn awr yn rhydd Ni chollwyd gwaed y groes Wel ymgysura'n awr |
A little drop of blood is
Heavier in heaven
Than the worst sin there is,
And all its guilt:
To be heard is the voice of the divine wound
Before their condemnatory shouts.
The blood of the cross was never
shed for nothing to the ground;
Nor deathly throes suffered
Without any great purpose;
And this was His intention -
To bring me from the world
to the kingdom of heaven.
Do not let me love any more
The sin of an evil kind -
The sin that gave a wound
To my Redeemer, O my God!
Do not let me love anything but Thee
From the earth to
the extremity of heaven above.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|