Mor gyfnewidiol yw
Meddyliau calon dyn!
Nid erys neb ond Duw
A'i eiriau pur yr un;
Pob iot o'i sanctaidd eiriau ef
Yn gadarn fydd pan ballo'r nef.
Dros dragwyddoldeb pell
Fe bery'r Ion dilyth,
A saif ei gynghor gwell
A'i addewidion byth;
JEHOFA wrth ei enw gwiw,
Ac "YDWYF YR HWN YDWYF" yw.
wrth :: yw D Silvan Evans (Daniel Las) 1818-1903
Tôn [666688]: gwelir: Dros dragwyddoldeb pell |
How changeable are
The thoughts of man's heart!
No-one remains but God
With his pure words the same;
Every jot of his holy words
Will be firm when heaven fades.
For a distant eternity
He will endure the unfailing Lord,
And stand will his better counsel
And his promises forever;
JEHOVAH by his worthy name,
And "I AM WHO I AM" it is.
by his :: is his tr. 2010 Richard B Gillion |
|