Mi ro'f fy nwylaw bellach

(Pwyso ar Grist - Rhan II)
Mi ro'f fy nwylaw bellach
  Ar ben yr Aberth mawr; 
Mi rifaf yno'n gryno 
  Fy holl bechodau i lawr;
Fe'u rho'f yn bwn i orphwys
  Ar ysgwydd Brenin nen;
Fe'i gwela'n crymu danynt
  Wrth farw ar y pren.

Ni edrychaf ar ddim arall
  Yn unig ond Tydi,
Dan hoelion dur yn griddfan
  Ar fynydd Calfari;
Fy lloches rhag euogrwydd,
  Tra ar y ddaear hon,
Fydd ol yr hoelion geirwon,
  A chlwyf y waewffon.

Duw, rho im' ffydd i edrych,
  Yn mhob caethiwed du,
A phechod arnai'n gwasgu -
  Ar fryniau Calfari:
Gwna i fy nghalon deimlo
  Dy anhghymharol loes;
A'm lloches, gynhes, dawel
  Fo'n wastad dan y groes.
William Williams 1717-91
Golwg ar Deyrnas Crist

Tonau [7676D]:
Caerllyngoed (alaw Gymreig)
Talybont (alaw Gymreig)
Whitford (J A Lloyd 1815-74) ()

gwelir:
  Rhan I - Mi bwysaf arnat Arglwydd
  Ei waith fel Archoffeiriad
  Fe safai'n Harchoffeiriad
  Ni edrychaf ar ddim arall
  O f'enaid moria bellach
  Wel pwysaf arnat Arglwydd

(Leaning on Christ - Part 2)
I will put my hands henceforth
  On the head of the great Sacrifice;
I will count there as a summary
  All my sins down;
I will put them as a burden to rest
  On the shoulder of the King of the sky;
I see him bowing under them
  While dying on the tree.

I will look on nothing else
  At all except thee,
Under steel nails groaning
  On the mountain of Calvary;
My refuge against guilt,
  While on this earth,
Shall be the mark of the rough nails,
  And the wound of the spear.

God, give me faith to look,
  In every black captivity,
And sin upon me pressing -
  On the hills of Calfar:
Make my heart feel
  Thy incomparable anguish;
And my quiet, warm refuge
  Be constantly under the cross.
tr. 2025 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~