Mi fûm mewn ofnau mawr
Yn ymbil ar y nef,
A'm pechod yn rhoi sail
I'm hanghrediniaeth gref;
Anfeidrol ras ddaeth maes o law,
A chariad 'maflodd yn fy llaw.
A phan y de's i'r làn,
Mi ge's oleuni clir
I wel'd mynyddau'r Aipht,
A bryniau Canaan dir;
Ffarwel yr Aipht a'i thrysor gwiw,
Yn ngwleddoedd Seion 'rwyf am fyw.
William Williams 1717-91
[Mesur: 666688] gwelir: Mi fûm mewn ofnau mawr (JW) |
I was in great fears
Pleading to heaven,
And my sin giving a basis
For my strong unbelief;
Immeasurable grace came before long,
And love took me by the hand.
And when I came up,
I got clear light
To see the mountains of Egypt,
And the land of Canaan's hills;
Farewell to Egypt and her worthy treasures,
In the feasts of Zion I want to live.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|