Mi fûm mewn ofnau mawr

  Mi fûm mewn ofnau mawr
    Yn llefain ar fy Nuw,
  A'r gelyn yntau'n d'weyd
    Nas gallwn byth fael byw;
Ond daeth trugaredd oddidraw,
A hi ymaflodd yn fy llaw.

  A phan y de's fel hyn
    Dan law trugaredd rad,
  Mi gefnais ar y byd,
    A thro'is i dŵ fy Nhad:
Yn iach i holl bleserau'r byd,
Yn ngwleddoedd Seion mae fy mryd.
John Williams c.1778-1865
Casgliad o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

efallai efylychiad o   |   perhaps an emulation of
Mi fûm mewn ofnau mawr
  Yn ymbil ar y nef

William Williams 1717-91

Tonau [666688]:
Alexandria (alaw Almaenadd)
Alun (J A Lloyd 1815-74)

I was in great fears
  Crying out for my God,
And the enemy himself saying
  That I would never get to live;
But mercy came from yonder,
And it took hold of my hand.

And when I came like this
  Under the hand of free mercy,
I turned my back on the world,
  And turned to my Father's house:
As healed from all the pleasures of the world
In the feasts of Zion is my interest.
tr. 2013 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~