Mawr iawn fu'r gorfoledd
pan gododd ein Ner,
Fe chwarddodd yr haulwen,
fe ddawnsiodd y ser;
Fe neidiodd mynyddau
a bryniau fel wyn,
Gorfoledd i'r Iesu
gyfodi er ein mwyn.
Doedd neb yn y nefoedd,
na neb ar y llawr
All'sai ofyn dim dyled
i'n Harglwydd y nawr.
Pan dalodd y cwbl,
pan groswyd y swm,
P'odd gall'sai ei ofynwyr
eu gadw e' 'nglwm?
Y gwragedd godasant
i edrych y bedd,
I wel'd a gyfododd
eu Harglwydd mewn hedd;
Wrth edrych, ofnasant,
nid oeddynt ond gwàn,
Ni welsant eu Harglwydd,
ond gwelsant y fàn.
Fe grynodd y ceidwaid,
cwympasant i lawr,
P'odd gall'sent hwy edrych
dysgleirdeb mor fawr.
Y weithred oedd ynfyd,
rhoi'i dynion mor wàn
I rwystro Creawdwr
y ddaear i'r làn.
Wel, saint, gorfoleddwch,
fe gafodd y dydd,
Fe rwymwyd ei ddyndod,
rho'i Dduwdod E'n rhydd:
Mae'i saint ef yn dystion,
gwirionedd mawr yw,
I'n Harglwydd adgodi
o farw yn fyw.
Bu rhyfedd orfoledd
pan 'scynodd yr Oen
I gyntedd y nefoedd
o'i lafur a'i boen;
Wnai saint na cherubiaid
na'r thronau bob rhai
Ond synnu a charu
a gwir lawenhau.
Fe ganodd hen seintiau
ddiangodd o'r byd,
Yn disgwyl cael gweled
eu Harglwydd o hyd,
Ynghyd a'r seraphiaid
a'r 'ngylion fath glôd
Mewn newydd ganiadau
na chlywyd erioed.
Cawn ninnau adgodi
ar doriad y dydd,
Lladd ceidwad y carchar
a'n gollwng yn rhydd;
A'n cym'ryd i fynu
o'r ddaear i'r ne',
Yn ngolwg angylion,
fel cafodd efe.
William Williams 1717-91
[Mesur: 11.11.11.11] gwelir: Esgynodd ein Harglwydd (mawr hylwydd mwyn hy') |
Very great was the rejoicing
when our Master arose,
The sun laughed,
the stars danced;
The mountains and hills
leapt like lambs,
Rejoicing that Jesus
arose for our sake.
There was no-one in heaven,
or anyone on the earth below
That could demand any debt
of our Lord any more.
When he paid the whole,
when he crossed the sum,
How could his creditors
keep it tied?
The women arose
to look at the grave,
To see whether their Lord had
arisen in peace;
On looking, they feared,
they were only weak,
They did not seek their Lord,
but they saw the place.
The guards trembled,
they fell down,
However could they look upon
radiance so great?
The action was foolish,
to set men so weak
To prevent the Creator
of the earth rising up.
Now, saints, rejoice,
he gained the day,
His humanity was bound,
his Divinity see him free:
His saints are witnesses,
great is the truth,
That our Lord rose again
from death alive.
There was wonderful refoicing
when the Lamb ascended
To the court of heaven
from his labour and his pain;
Saints and cherubim
and the thrones of every kind
Could only be astounded and love
and truly rejoice.
The old saint sang
who escaped from the world,
Expecting to get to see
their Lord always,
Together withhhhh the seraphim
and the angels of such acclaim
In new songs
never heard before.
We too may rise again
at the break of day,
The Saviour slew the prison
and set us free;
And will take us up
from the earth to heaven,
In the sight of angels
as he himself was.
tr. 2022,25 Richard B Gillion
|
|