Mawl i'th enw Arglwydd grasol

1,2,3,(4).
(Dewi Sant)
Mawl i'th enw, Arglwydd grasol,
  Am dy was, oleuni'n tir,
Pan deyrnasai nos anwybod -
  Nos ddi-wawr yr oesau hir;
Gair dy ras ddanfonodd Dewi
  I'n chwaer-ynys dros y môr;
Am dywysog ffydd dy Gymru,
  Mawl i'th enw, Arglwydd Iôr.

Mawl i'th enw, Arglwydd grasol,
  Am dy was a'i gadarn ffydd
Ddysgaist iddo yn dy gariad,
  Ddysgodd yntau yn ei ddydd;
Diolch am yr hael dywysydd
  Fu yn agor euraid ddôr
Myrdd fendithion
    gorau'r nefoedd -
  Mawl i'th enw, sanctaidd Iôr.

Mawl i'th enw, Arglwydd grasol,
  Am dy was, a phawb o'r saint
Sy'n gwregysu'n gwlad â gweddi
  Ac eiriolaeth, er ein braint;
Coffa'u henwau a'u gweithredoedd
  Mae'r mynyddoedd hen a'r môr;
Am y llu gwroniaid duwiol
  Mawl i'th enw, sanctaidd Iôr.

Mawl i'th enw, Arglwydd grasol,
  Am y meini bywiol hyn
Yn dy Eglwys, lân adeilad,
  Brynaist ar Galfaria fryn;
Dyro inni wres eu cariad,
  A'u diysgog ffydd yn stôr,
A dyrchafwn yn wastadol
  Fawl i'th enw, sanctaidd Iôr.
Arthur Simon Thomas (Anellydd) 1865-1935

Tonau [8787D]:
Moriah (alaw Gymreig)
Tanymarian (Edward J Stephen 1822-85)

(Saint David)
Praise to thy name, gracious Lord,
  For thy servant, the light of our land,
When the night of ignorance reigned -
  The dawn-less night of the long ages;
'Twas the word of thy grace sent David
  To our sister-island across the sea;
For the prince of the faith of thy Wales,
  Praise to thy name, Sovereign Lord.

Praise to thy name, gracious Lord,
  For thy servant and his firm faith
Thou didst teach to him in thy love,
  That he himself didst teach in his day;
Thanks for the generous leader
  Who opened the golden door
Of a myriad of the best
    blessings of heaven -
  Praise to thy name, holy Lord.

Praise to thy name, gracious Lord,
  For thy servant, and all of the saints
Who are girdling our land with prayer
  And intercession, for our privilege;
Remembering their names and their actions
  Are the old mountains and the sea;
For the host of godly heroes
  Praise to thy name, holy Lord.

Praise to thy name, gracious Lord,
  For these living stones
In thy Church, a holy building,
  Thou didst purchase on Calvary hill;
Grant us the heat of their love,
  And their unwavering faith as a store,
And let us raise constantly
  Praise to thy name, holy Lord.
tr. 2019,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~