Mae Seion yn dy garu,
Iesu mawr;
Amdanat mae'n hiraethu,
Iesu mawr;
Tyr'd ati yn Dy wenau,
Mae'n galw ar ei gliniau
A'i chalon yn ei dagrau,
Iesu mawr;
Dy gwmni dyro dithau,
Iesu mawr.
O! Geidwad bendigedig,
Tyr'd yn nês,
At ysbryd cystuddiedig,
Tyr'd yn nês;
Mae ynot Ti drugaredd
I'r truan diymgeledd,
A chysgod rhag dialedd,
Tyr'd yn nês;
Er mwyn yr Iawn
a'i rinwedd,
Tyr'd yn nês.
Na thro Dy wyneb ymaith,
Geidwad dyn;
Tydi yw'n hunig obaith,
Geidwad dyn;
Er dyfned yw yr hirnos,
Mae goleu yn ymddangos
Pan fyddi Di yn agos,
Geidwad dyn;
O! tyr'd yn nês, ac aros,
Geidwad dyn.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
[Mesur: 7373.7773.73] |
Zion loves thee,
Great Jesus;
For thee she is longing,
Great Jesus;
Come to her in thy smiles,
She is calling on her knees
With her heart in her tears,
Great Jesus;
Thy company give thou,
Great Jesus.
O blessed Saviour,
Come closer,
To an afflicted spirit,
Come closer;
In thee is mercy
For the helpless wretch,
And a shade against vengeance,
Come closer;
For the sake of the atonement
and its merit,
Come closer.
Do not turn thy face away,
Saviour of man;
Thou art our only hope,
Saviour of man;
Despite how deep is the long night,
Light is appearing
When thou art near,
Saviour of man;
O come closer, and stay,
Saviour of man.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|