Mae newydd ddydd yn torri
Dros ael y clogwyn ban,
Cyfodwn i'w glodfori,
Cychwynnwn tua'r lan.
Ni ganwn yn rhydd,
Dan wenau y dydd,
Dringwn yn uwch i'r lan.
Mae'r dydd yn torri'n dirion
Ar freintiau Cymru lân;
Mae heddwch, fel yr afon,
Yn llifo drwy ei chân.
Mae gloywach dydd yn torri
Ar fywyd glân y plant,
A thyfu mae gwyrddlesni
Y nef dros fryn a phant.
Humphrey Jones (Bryfdir) 1867-1947
Tôn [7676+556]: Dringwn yn Uwch (J E Jones) |
A new day is breaking
Over the brow of the beacon cliff,
Let us arise to extol it,
Let us set off upwards.
We sing freely,
Under the smiles of the day,
Let us climb up higher.
The day is breaking tenderly
On the privileges of holy Wales;
Peace, like a river, is
Flowing through its song.
A brighter day is breaking
On the holy life of the children,
And growing is the verdure
Of heaven over hill and hollow.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|