Mae'n wyn a gwridog, enwog ŵr,
A doeth Iachawdwr da;
Y rhai sy'n flin
gan bwys eu llwyth,
Ei hun fe'u hesmwytha: -
A ai di, enaid, ar ei ol?
Mae'n holl-ddigonol nerthol Naf;
Mae'n ddigon cryf, - O brysia, cred,
Nac oeda, - dywed, Af!
Mae ef yn Dduw mawr, byw, mewn bod,
Yn Undod, Trindod, draw,
Er trag'wyddoldeb cyn bod neb,
I dragwyddoldeb ddaw:–
A ai di, enaid, ar ei ol?
Mae yn anfeidrol nerthol Naf:
O cyfod bellach, ynddo cred,
Nac ofna, – dywed, Af!
Crist ydyw'r Bugail mawr diball,
Arweinia'r dall i dŷ;
Dyddanu'r gwan eu meddwl mae,
A'u llawenhau yn llu:–
A ai di, enaid, ar ei ol?
Mae yn rhinweddol nerthol Naf;
Fe'th dderbyn fel yr ydwyt, cred,
I'w ganlyn, – dywed, Af!
Pan elych di
trwy'r dyfroedd dwys,
Fe gynal bwys dy ben;
Pan rodiech di trwy'r tân,
ni'th lysg;
Ai adre'
â'th wisg yn wen:–
Gwell i ti fyned ar ei ol,
Mae'n holl-bresennol nerthol Naf;
Gwych Haul cyfiawnder,
ynddo cred,
I'w ganlyn, – dywed, Af!
Pan elych trwy'r Iorddonen ddû,
Cei lechu yn ei law; -
Fe'th ddwg di, enaid llesg i'r làn,
I'w nefol drigfan draw:
Cei ganu'n llafar gyda'r llu
Sy'n llawenychu yn eu Naf:–
A ai di i'w ganlyn, doed a ddêl?
O d'wed yn uchel, Af!
Edward Jones 1761-1836
[Mesur: 8686.8886] gwelir: Rhan I - Mae'r Tad yn anfon gweision gwych Crist ydyw'r Bugail mawr di-ball Duw y duwiau Arglwydd nef |
He is white and ruddy, a famous man,
And a good, wise Saviour;
Those who are wearied
by the weight of their load,
He himself will relieve: -
Wilt thou go, soul, after him?
He is a wholly-sufficient, strong Lord;
He is strong enough, - O hurry, believe,
Do not delay, - say, I will go!
He is a great God, alive, existing,
A Unity, Trinity, yonder,
For an eternity before anything was,
To a coming eternity:-
Wilt thou go, soul, after him?
He is an infinite, strong Lord:
O arise now, believe in him,
Do not fear, - say, I will go!
Christ is the great, unfailing Shepherd,
Who leads the blind home;
Comforting those of weak mind he is,
And cheering them as a host:-
Wilt thou go, soul, after him?
He is a virtuous, strong Lord:
He will receive thee as thou art, believe,
To follow him, - say, I will go!
When thou goest
through the intense waters,
He will support the weight of thy head;
When thou walkest through the fire,
it will not burn thee;
Thou wilt go home
with thy clothing white:-
Thou hadst better go after him,
He is an all-present, strong Lord;
A brilliant Sun of righteousness,
believe in him,
To follow him, - say, I will go!
When thou goest through the black Jordan,
Thou wilt get to hide in his hand; -
He will bring thee, feeble soul, up
To the heavenly dwelling yonder:
Thou shalt get to sing aloud with the host
Who are rejoicing in their Lord:-
Wilt thou go to follow him come what may?
O say loudly, I will go!
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|