Mae enw Calfari,
Fu gynt yn w'radwydd mawr,
Yn ngolwg f'enaid cu
Yn fwy na'r nef yn awr:
O! ddedwydd fryn, sancteiddiaf le,
Dderbyniodd ddwyfol waed y ne'!
'R wy'n caru'r hyfryd awr,
Mi gara'r hyfryd le,
Mi garaf bren y groes
'Gorweddodd arno 'fe:
Fy enaid, dyma'm Duw a'm Pen,
Ac oll a feddaf, ar y pren!
Ffarwél deganau byd,
Mae'ch tegwch hyfryd iawn
Oll yn diflanu 'nghyd
Ar Galfari brydnawn:
Mae da, a dyn, er maint eu grym,
Yn ngŵydd y groes yn myn'd yn ddim.
William Williams 1717-91
Tonau [666688]: gwelir: Mawr iawn yw gwres y tân Fe gân 'tifeddion gras |
The name of Calvary,
Which once was a great reproach,
In the sight of my dear soul
Is more than heaven now:
O happy hill, most holy place,
Which received the divine blood of heaven.
I am loving the delightful hour,
I love the delightful place,
I love the wood of the cross
On which he lay:
My soul, behold my God and my Head,
And all I possess, on the tree!
Farewell trinkets of the world,
Thy very delightful fairness is
All disappearing altogether
On Calvary one afternoon:
Stock, and man, despite their force, are
In the face of the cross becoming nothing.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|