Mae anghrediniaeth beunydd
yn dangos ger fy mron,
Y gorfydd imi sefyll
yn ngwyneb llawer tòn,
A'r gelyn yn cyhuddo,
gan ddweyd mai namnio a gaf;
'Rwy'n dyfod atat Iesu,
dan waeddi, Beth a wnaf?
Atolwg, Arglwydd, gwrando,
'rwy'n curo wrth dy ddôr,
Gan deimlo 'maich yn drymach
na thywod mân y môr;
Er cymaint yw fy llygredd,
mwy yw'th drugaredd di,
O! crea anian dduwiol,
anfarwol ynof fi.
'Rwy'n gwel'd yn ddigon eglur
nad allaf byth, fy Nuw,
Roi iawn am unrhyw drosedd,
na'r camwedd lleia' ei ryw;
Nid oes ond haeddiant dwyfol,
effeithiau marwol loes,
A rhinwedd gwaed ei glwyfau
ddilea
feiau f'oes.
Cyfiawnder oedd yn wastad
yn gwaeddi am daliad llawn,
A Sina'n peri dychryn,
a'r ddeddf yn gofyn Iawn,
Ar waedlyd fryn Calfaria
mi welaf yr un dydd,
Y meichiai'n llaw'r gofynwr,
dyledwr yntau'n rhydd.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850Gardd Eifion 1841 [Mesur: 7676D] gwelir: Atolwg Arglwydd gwrando |
Unbelief daily is
showing before me,
I must stand
in the face of many a wave,
With the enemy accusing,
by saying that I shall fail;
I am coming to thee Jesus,
while shouting, What shall I do?
I beseech thee, Lord, to listen,
I am knocking at thy door,
Feeling my burden heavier
than the fine sand of the sea;
Despite how great is my corruption,
greater is thy mercy,
O create a divine, immortal
nature within me.
I am seeing sufficiently clearly
that I shall never, my God,
Give compensation for any trespass,
nor the mistake of the least kind;
There is only the divine merit,
of the effects of mortal anguish,
And the virtue of the blood of his wounds
that will cancel the
faults of my lifespan.
Righteousness was constantly
shouting for full payment,
And Sinai causing terror,
with the law demanding Satisfaction,
On the bloodied hill of Calvary
I see on the same day,
The surety in the hand of the demander,
and the debtor himself free.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|