Llwch wyf fi, o'r llwch y daethum,
Pryf yw 'mrawd,
y ddae'r yw 'mam,
Etto'r wyf fi'n 'mofyn teyrnas,
Ddisigledig bur ddinam;
Pryf y ddaear,
A ddaw hwnw mewn i'r nef!
Dof, mi ddof
trwy'r anial garw,
Dof er gwaetha'r moroedd glās;
Dof trwy'r cenllysg
a'r tymhestloedd,
Sydd yn curo ar fy ngras;
Am mai cadarn,
Ydyw'r hwn 'rwyf yn ei gōl.
Rhof ffarwel i'r holl gre'digaeth,
Ffarwel faesydd gwych eu rhyw,
Ffarwel deiau teg yr olwg;
Ffarwel ddynion goreu'n fyw;
Gwych gyfnewid,
Duw ei hunan yn lle'r byd.
Fe ennynwyd ynwy' fflamau,
Tān mor hyfryd, tān mor gry',
Nid o'r ddaear daeth ei wreiddyn,
Cariad pur y nefoedd fry;
Awel beraidd,
O fynyddau hyfryd ras.
Hwn a roddodd imi anadl,
Eilwaith roddodd imi ras,
Ag a bery pan ddiango
F'anadl llesg o'm ffroenau 'maes:
Neb ond Iesu,
Wnaethai'r marw hen yn fyw.
Chwi angylion sydd yn edrych,
Ar ei wyneb gwridog gwyn,
Traethwch i mi p'odd dechreuodd,
Fflam mor berffaith bur a hyn;
Nef ei hunan,
'Nynodd ynwy' ei helfen bur.
Ydyw'r :: Yw yr ennynwyd ynwy' :: ennynwyd ynof i mi p'odd :: im' pa fodd Tôn [878747]: Penrhos (<1835) |
Dust am I, from the dust I came,
A worm is my brother,
the earth is my mother,
Still I am asking for a kingdom,
Unshakable, pure, harmless;
A worm of the earth,
And this shall come into heaven!
I shall come, come
through the rough desert,
I shall come despite the blue seas;
I shall come through the hailstones
and the tempests,
Which are beating on my grace;
Since firm
Is he in whose bosom I am.
I will bid farewell to the whole creation,
Farewell fields of a brilliant kind,
Farewell houses of a fair appearance;
Farewell the best men alive;
A brilliant exchange,
God himself in place of the world.
In me has been kindled flames,
A fire so delightful, a fire so strong,
Not from the earth came its root,
The pure love of heaven above;
A sweet breeze,
From the mountains of delightful grace.
He has given me breath,
A second time he gave me grace,
Which shall continue when my feeble
Breath escapes out from my nostrils:
No-one but Jesus,
Would make the old dead alive.
Ye angels who are looking,
On his ruddy, white face,
Expound to me how began,
A flame so perfect, pure as this;
Heaven itself,
Brought to me its pure element.
:: :: :: tr. 2015 Richard B Gillion |
|