Iesu roes addewid hyfryd
Cyn ei fynd i ben ei daith,
Yr anfonai Ef ei Ysbryd
I roi bywyd yn ei waith;
Dawn dy Ysbryd,
Digon i'r disgyblion yw.
Cofiodd Iesu ei addewid,
A chyflawnodd hi yn awr;
Ar y Sulgwyn daeth yr Ysbryd
Ac achubwyd tyrfa fawr:
Enw'r Iesu
Gaiff yr holl ogoniant mwy.
Mae digonedd cyflawn eto
Yn yr hen addewid wiw;
Boed i ninnau'n awr wedïo
Am ymweliad Ysbryd Duw:
O tywallter
Ef yn helaeth arnom ni.
O Lân Ysbryd yr addewid,
Tyred yn dy ddawn di-lyth,
Mae dy ras yn ddigyfnewid,
Gweithia'n rymus yn ein plith,
Deffro'r Eglwys,
Achub, argyhoedda'r byd.
Roger Edwards 1811-86
Tonau [878747]: |
Jesus gave a delightful promise
Before going to his destination,
He would send his Spirit
To put life in his work;
The gift of thy Spirit,
Is sufficient for the disciples.
Jesus remembered his promise,
And has fulfilled it now;
On Whit Sunday the Spirit came
And a great multitude were saved:
The name of Jesus
Will get all the glory henceforth.
There is complete sufficiency again
In the old worthy promise;
Let us now pray
For a visit of God's Spirit:
O let him be poured out
Widely upon us.
O Holy Spirit of the promise,
Come in thy unfailing gift,
Thy grace is unchanging,
Work strongly amongst us,
Awaken the Church,
Safe, convince the world!
tr. 2011 Richard B Gillion
|
|