Iesu mawr Ei urddas
Drigodd yn y cnawd,
Mab y Duw goruchaf
Ddaeth i ni yn Frawd;
Ty Ei Dad adawodd
Am drigfannau'r llawr,
Er mwyn codi eilwaith
Blant y codwm mawr.
Taener son am dano,
Gyda hwyl o hyd,
Nes dêl i'w gofleidio
Holl dylwythau'r byd.
Iesu mawr Ei gariad
Brofodd farwol loes,
Unwaith dan yr hoelion
Ar y greulon groes;
Angau a orchfygodd,
Gelyn euog ddyn;
Ofn y bedd ddiddymodd,
Drwy fynd iddo'i Hun.
Iesu mawr Ei haeddiant
Drosom gwyd Ei lef,
Ar ddehelaw'r Mawredd
Fry yn nef y nef;
Gobaith sydd i'r gwannaf
Allu dod i'r lan,
Tra bo'r Hwn fu farw
'N eiriol ar ein rhan.
David Rowlands (Dewi Môn) 1836-1907
Tôn [6565T]: Ceinwen (J Pryce Hughes) |
Jesus of great dignity
Dwellt in the flesh,
The Son of the most high God
Came to us as a Brother;
His Father's house he left
For the dwellings of the earth,
In order to raise again
The children of the great fall.
Mention about him is to be spread,
With enthusiasm always,
Until all the tribes of the world
Come to embrace him.
Jesus of great love
Experienced mortal pangs,
One under the nails
On the cruel cross;
Death he overcame,
The enemy of guilty man;
The fear of the grave he abolished,
Through going to it Himself.
Jesus of great merit
For us raises His cry,
At the right hand of the Majesty
Up in the heaven of heaven;
Hope there is for the weakest
Who can come up
While ever He who died be
Interceding on our behalf.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|