Iesu annwyl, 'r wy'n dy garu,
Ac yn torri'r blwch i gyd;
Mae fy nghalon yn cynhesu
Yn dy gwmni Di o hyd;
Dyma'r ennaint
Sydd yn werthfawr gwnnyt Ti.
Iesu annwyl, gad im weini
Ar dy Berson, ddydd a nos;
Sefyll gyda'r gwragedd ffyddlon
Yn fy nagrau wrth dy Groes;
Dyma'r ennaint
Sy'n aroglau pêr i ti.
Iesu annwyl, na warafun
Imi mwy dy gyffwrdd Di;
ymbil 'r ydwyf ar fy neulin,
O! Raboni, derbyn fi;
Dyma'r ennaint
Ddaw â Duw i'n bwywd ni.
Morgan A Jones 1876-1944
Tôn [878747]: Llwynbedw (J T Rees 1857-1949) |
Dear Jesus, I am loving thee,
And breaking the box altogether;
My heart is warming
In thy company always;
Here is the ointment
Which is valuable to Thee.
Dear Jesus, let me serve
Thy Person, day and night;
Stand with the faithful woman
In my tears by thy Cross;
Here is the ointment
Which is smelling sweetly to thee.
Dear Jesus, do not forbid
Me any more to touch Thee;
Pleading I am on my knees,
O Raboni, receive me!
Here is the ointment
Which shall bring God to our life.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|