Iesu annwyl, gwna fi'n brydferth
Megis rhosyn yn yr ardd;
Gwasgar persawr dwry yr awyr
Wnelo 'mywyd glân a hardd.
Byw fel Iesu, dilyn Iesu,
Ydyw cri fy nghalon wan,
Dweud fel Iesu, gwneud fel Iesu,
Yw fy nefoedd ym mhob man.
Iesu tirion, gwna fi'n fendith
Fel yr afon ar ei thaith;
Boed i minnau wneud daioni
Trwy roi f'anian yn dy waith.
Iesu tyner, gwna fi'n siriol
Fel y wawr ar fryniau'r byd;
Troi pob nos yn hyfryd olau
Fyddo f'awydd i bob pryd.
Iesu annwyl, gwna fi'n llawen
Fel aderyn yn y llwyn;
Llenwi'r wlad â mwyn alawon
Wnelwyf beunydd, er dy fwyn.
Fred Morgan 1872-1933
Tôn [8787D]: Gweddi Plentyn |
Dear Jesus, make me beautiful
Like a rose in the garden;
Spreading perfume through the air
May my beautiful and holy life do.
Live like Jesus, follow Jesus,
Is the cry of my weak heart,
Speak like Jesus, do like Jesus,
Is my heaven in every place.
Gentle Jesus, make me a blessing
Like the river on its journey;
May I do good
Through giving my money in thy work.
Tender Jesus, make me cheerful
Like the dawn on the hills of the world;
To turn every night into delightful light
May my desire be on every occasion.
Dear Jesus, may me joyful
Like a bird in the grove;
Fill the land with lovely breezes
I shall do daily, for thy sake.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|