Hwn yw yr hyfryd fore ddydd

1,(2),3,4.   1,2,3,4,5.
(Atgyfodiad Crist)
Hwn yw yr hyfryd fore ddydd
Y daeth ein Iesu mawr yn rhydd;
  Cydlawenhaed pob enaid trist
  Y dedwydd ddydd y cododd Crist.

Bodlonwyd holl ofynion llawn
Y gyfraith yn ei berffaith Iawn;
  Caed cymod dros bechadur trist:
  Cyflawnwyd popeth - cododd Crist.

Goleuni ddaeth ar byrth y bedd:
Dynoliaeth bur, ā newydd wedd,
  A ddaw i'r lan o'r carchar trist
  I fywyd dedwydd - cododd Crist.

Gwrandewch, y nefoedd! ddaear, clyw!
Dy feirwon eto a fydd byw;
  Preswylwyr llwch marwolaeth drist,
  Deffrowch a chenwch - cododd Crist.

O Ddu, marweiddia'm chwantau cas,
A maddeu'm pechod trwy dy ras;
  A gwenu wnaf ar angeu trist,
  Os huno gaf mewn ffydd yng Nghrist.
Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-95

Tonau [MH 8888]:
Affection (Greenwood's Psalmody 1838)
Cān 34 (Orlando Gibbons 1583-1625)
Eden (Lowell Mason (1792-1872)
Gilead (G F Handel 1685-1759)
Holly (George Hews 1806-73)
Lledrod (alaw Gymreig)
Montgomery (Musical Companion 1772)
Wareham (William Knapp 1798-1868)
Warrington (R Harrison 1748-1810)
Whitburn (Henry Baker 1835-1910)

(The Resurrection of Christ)
This is the delightful morn of day
When our great Jesus came free;
   Let every sad soul rejoice together
   The happy day when Christ arose.

Satisfied were all the full demands
Of the law in his perfect Atonement;
  Reconciliation was got for a sad sinner:
  Everything was fulfilled - Christ arose.

Light came upon the portals of the grave:
Pure humanity, with a new face,
  Shall come up from the sad prison
  To a happy life - Christ arose.

Listen, ye heavens! thou earth, hear!
Thy dead shall yet live;
  Residents of the dust of sad mortality,
  Wake ye and sing - Christ arose.

O God, mortify my hated lusts,
And forgive my sins through thy grace;
  And smile I shall on sad death,
  If may awake in faith in Christ.
tr. 2016,18 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~