Hosanna gwyd yn awr
At orsedd duw ei hun,
Disgynnodd Iesu mawr
I drigo gyda dyn;
Ac ar y ffordd a gerddodd ef
Mae porth agored nef y nef.
Ar ol yr Iesu'r awn,
Ymdeithiwn tua'r nef,
Ac wrth ei ddilyn canu wnawn
Hosanna iddo ef.
Am iddo ar y bryn
Ogwyddo'i ben brynhawn
A marw'n sanctaidd wyn,
A'i angeu'n ddwyfol iawn,
Hosanna bur i Frenin nef,
Hosanna byth i'w enw ef.
Anthemau'n ddiwahardd
Gân etifeddion ffydd
Am newydd fedd yr ardd,
A bore'r trydydd dydd;
Mae'r glyn yn awr yn foliant byw,
Ac yn y bedd angylion Duw.
Esgynnodd drwy y llen,
Yn obaith euog fyd,
Ac ar ei orsedd wen
Teyrnasu mae o hyd:
Ni dderfydd rhinwedd mawr ei glwy,
Ac ni fydd tranc i'w deyrnas mwy.
Addewid Iesu mawr
Gyflawnwyd dros y lli;
A'i ysbryd sydd yn awr
Yn aros gyda ni;
Hosanna bur i Frenin nef,
Hosanna byth i'w enw ef.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
Tôn [666688.6686]: |
Hosanna rises now
To God's own throne,
Great Jesus descended
To dwell with man;
And on the road which he walked
There is an open portal of the heaven of heaven.
After Jesus let us go,
Let us travel towards heaven,
And while following him let us sing
Hosanna unto him.
Because he on the hill
Bowed his head in the afternoon
And died as a holy lamb,
And his very divine death,
Pure hosanna to the King of heaven,
Hosanna forever to his name.
Unhindered anthems
The song of the heirs of faith
For news of the garden tomb,
And the morning of the third day;
The vale is now living praise,
And in the grave the angels of God.
He ascended through the curtain,
As the hope of a guilty world,
And on his white throne
He is still ruling:
The great merit of his wound will not pass away,
And there never will be any passing of his kingdom.
The promise of great Jesus
Was fulfilled across the flood;
And his Spirit is now
Staying with us;
Pure hosanna to the King of heaven,
Hosanna forever to his name.
tr. 2010 Richard B Gillion
|
|