Hyn yw'r dirgelwch mwyaf gaw'd, - Duw ymddangododd yn y cnawd, Yr Hollgyfoethog ddaeth yn dlawd, I'n cyfoethogi ni: O dan ei ddeddf ei hun fo ddaeth, I ddyoddef iddi ei gosbi'n gaeth, A'n rhoddi ni yn rhydd a wnaeth O'i gafael helaeth hi. Y ddeddf aroddodd Ef i ddyn, A ddaliai ' Hawdwr mawr ei hun; Pan wisgodd gnawd, yn dlawd ei lun, Aeth deddf i ofyn Duw; Ac nis gollyngodd nes cael llawn Lwyr daledigaeth helaeth iawn: 'N awr yn ei gysgod ninnau gawn Yn foddlawn ganddi fyw. Pe gall'sai'r gyfraith ein bywhâu, Ni b'asai ffydd werth ei choffâu, Na Christ yn rhodio i'w mawrhâu 'N sail llawenhâ i ni; Ond drych yn dangos harddwch Duw, A pha mor aflan dynolryw, A rheol fanol i ni fyw, Hyd heddyw, ydyw hi. Er nad yw'r gyfraith yn bywhâu, Nac o'n harchollion yn iachâu, 'D oes achos i ni ei chasâu, Am nodi'n beiau'n awr; Y ddeddf yw'r ganwyll ddidwyll, dda, 'Roed yn ein plith in' wel'd ein pla; Ond Crist yw'r meddyg a'n hiachâ O'n clwyfau mwya' mawr.Edward Jones 1761-1836 Caniadau Maes-y-Plwm [Mesur: 8886D] |
This is the greatest mystery had, - God appearing in the flesh, The All-wealthy became poor, To make us wealthy: Under his own law he came, To suffer it to punish him severely, And set us free he did From its extensive grasp. The law that he announced to man, Would hold its great Author himself; When he wore flesh, in a poor appearance, The law went to demand of God; And released him not until it got a full, Complete, generous satisfaction: Now in his shadow we may get Contentedly by it to live. If the law could enliven us, Faith would not be worth remembering, Nor Christ walking to magnify it As the basis of joy for us; But a mirror showing the beauty of God, And how unclean be humankind, And a detailed rule for us to live, Until today it is. Although the law is not enliven, Nor from our wounds healing, There is no cause for us to hate it, For noting our sins now; The law is the good, honest candle, Given among us for us to see our plague; But Christ is the physician who heals us From our most great sicknesses.tr. 2025 Richard B Gillion |
|