Gwrando, blentyn llon dy ysbryd,
Wrthyt dwed dy Nefol Dad,
Rhyfel iti yw dy fywyd,
Bydd yn arwr yn y gad,
yn arwr yn y gad.
Bydd yn arwr, bydd yn arwr,
Saf yn ddewr er pob sarhad.
Bydd yn arwr, bydd yn arwr,
Bydd yn arwr yn y gad.
Pan y'th ddenir gan gymdeithion,
Neu bechodau a'u mwynhad,
Ateb "Na" yn benderfynol -
Bydd yn arwr yn y gad,
yn arwr yn y gad.
Pan y'th demtir gan dy nwydau -
Roddant wedi'r mwyniant glwy':
Cwyd dy lef at Dduw mewn gweddi
Am y nerth i'w trechu hwy,
y nerth i'w trechu hwy.
Atat pan ddaw saeth amheuaeth -
"Terfyn oes sy'n derfyn byw":
Cwyd i'w herbyn darian gobaith
Am dragwyddol fywyd Duw,
dragwyddol fywyd Duw.
cyf. David Adams (Hawen) 1845-1923
Tôn [8787(6)+8787]: Bydd yn Arwr |
Listen, child of cheerful spirit,
To thee thy Heavenly Father says,
War for thee is thy life,
Be a hero in the army,
a hero in the army.
Be a hero, be a hero,
Stand bravely despite every insult.
Be a hero in the army,
Be a hero in the army.
When thou art attracted by companions,
Or sins and their enjoyment,
Answer "No" determinedly -
Be a hero in the army,
a hero in the army.
When thou art tempted by thy passions -
Which give after the enjoyment a wound:
Raise thy cry to God in prayer
For the strength to overcome them,
the strength to overcome them.
To thee when comes an arrow of doubt -
"There is an end which is the end of life":
Raise against them the shield of faith
For the eternal life of God,
the eternal life of God.
tr. 2013 Richard B Gillion
|
H Ernest Nichol (Colin Sterne) 1862-1926
Tune [8787(6)+8787]: Be a Hero |