Gwêl, O gwêl ar feysydd Bethlem
Osgordd o angylion glân,
Gyda'r wawr yn llon ddychafu
Odlau pêr y nefol gân;
O lawenydd -
Geni'r Iesu'n Geidwad dyn!
Yn ôl arfaeth fawr y bore,
Daeth yr Iesu'n faban gwan,
Er dyrchafu gwael ddynoliaeth
O'i hiselder dwfn i lan:
Canwn iddo
Mwyach am ein cofio ni.
Tyred di, O rasol Geidwad,
Tyred i'n calonnau ni;
Gwna ein cyrff yn demlau sanctaidd,
Teilwng rai ohonot ti;
Trwy dy Ysbryd
Trig yn ein serchiadau ni.
J Davies (Isfryn) 1861-1948
Tonau [878747]: |
See, O see on the fields of Bethlehem
An escort of holy angels,
With the dawn cheerfully raising
Pure verses of the heavenly song;
O joy -
The birth of Jesus as Saviour of man!
According to the great plan of the morning,
Jesus came as a weak baby,
In order to raise base humanity
Up from its deep depression:
Let us sing to him
Henceforth for remembering us.
Come thou, O gracious Saviour,
Come to our hearts;
Make our bodies sacred temples,
Ones worthy of thee;
Through thy Spirit
Dwell in our affections.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|