Golwg Arglwydd ar dy ŵyneb

(Llef yr Arglwydd) / (Gair o Enau Duw)
Golwg, Arglwydd, ar dy ŵyneb
  Sydd yn codi'r marw o'r bedd;
Mae agoriad nef ac uffern
  Yna i'w deimlo ar dy wedd;
    Gair dy ras, pur ei flas,
  Nawr a ddetgly 'nghalon gas.

Aglwydd, danfon dy leferydd
  Heddiw yn ei rwysg a'i rym;
Dangos fod dy lais yn gryfach
  Nag all dyn wrthsefyll ddim;
    Cerdd ymlaen, nefol dān,
  Cymer yma feddiant glān.

Tyred bellach, tyr'd yn ebrwydd,
  Ac anadla'r gwyntoedd cryf
Sydd yn nerthu'r pererinion
  I wynebu'r gelyn hyf -
    Yn gwneyd grym Satan llym
  Mewn mynydyn fyn'd yn ddim.
Nawr a ddetgly 'nghalon ::        
        Egyr yma'n calon
Nag all :: Nas gall

William Williams 1717-91

Tonau [878767]:
Bryn Myrddin (J Morgan Nicholas 1895-1963)
Dolfor/Sardis (alaw Gymreig)
Groeswen (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Gwahoddiad (alaw Gymreig)
Llanbadarn (R S Hughes 1855-93)
Priscilla (Dafydd Jones 1743-1831)

gwelir: Arglwydd anfon dy leferydd

(The Lord's Voice) / (A Word from God's Mouth)
To look, Lord, on thy face
  Raises the dead from the grave;
The key of heaven and hell is
  There to be felt on thy countenance;
    The word of thy grace, pure its taste,
  Now which will unlock my wicked heart.

Lord, send thy speech
  Today in its power and its force;
Show that thy voice is stronger
  Than man can withstand at all;
    Proceed forwards, heavenly fire,
  Take complete possession here.

Come henceforth, come quickly,
  And breathe the strong winds
Which are strengthening the pilgrims
  To face the bold enemy -
    Making the force of sharp Satan
  In a minute become naught.
Now which will unlock my ... heart ::        
        Shall open here my ... heart
::

tr. 2009 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~