Gallesit dalu i ni'r pwyth,
Drwy dduo ffrwyth
y ddaear;
A'n cau dan arwydd o dy ŵg,
Mewn golwg trist a galar.
Ti roddaist i ni dywydd da,
I gaslgu'n bara'n bur-iach;
Dod galon newydd ynom ni
I'th garu di'n gywirach.
Er i ti'n bwgwth, Arglwydd da,
A niwed pla o newyn;
Er hyny'n harbed wne'st bob tro,
Cyn ein niweidio, wed'yn.
Bygythiast sychder fel yn farn,
Troi'n gwlad i haiarn g'ledwch;
Ac eto'n harbed cyn pen hir,
Troi'n tir yn wir dynerwch.
Er bwgwth braenu,
ambell bryd,
Holl buraf ŷd ein bara;
Ei roi drachefn fu'th drefn,
faith draul,
O! gwelwn, gael ein gwala.
Er haeddu newyn dygn, du,
Am bechu'n wyneb uchel;
Ond danfon bara i ni gael byw
Mae'n Duw, yn hynod dawel.
Edward Jones 1761-1836Caniadau Maes y Plwm 1857 [Mesur: MS 8787] |
Thou couldst have paid us the recompense,
Through blackening the
fruit of the earth;
And shutting us under a sign of thy frown,
In a sad look and mourning.
Thou gavest to us good weather,
To gather our bread wholly safely;
Put a new heart within us
To love thee more truly.
Although thou threaten us, good Lord,
With the hurt of a plague of starvation;
Despite this save us thou didst every time,
Before we got harmed, then.
Thou didst threaten drought as a judgment,
Turning our land into iron hardness;
and yet saved us before long,
Turning our ground truly tender.
Although threatening the rotting,
several times,
Of all the purest grain of our bread;
Turning it back was thy purpose,
a vast wastage,
O look! We have our sufficiency.
Although deserving severe, black hunger,
For sinning with a haughty attitude;
But sending bread for us to get to live
Is God, remarkably quietly.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|