Galarus yw'm holl daith
Gan orthrymderau maith,
Gan rif a grym
gelynion câs;
Gan ofnau o bob rhyw,
Gan guddiad wyneb Duw,
Gan arswyd
colli'r dydd yn lân.
'Bryd gwawria'r dedwydd ddydd,
Câf fod yn berffaith rydd
Oddi wrth fy llygredd, a phob clwy'?
'R anfeidrol ryfedd awr
Daw'm gwaredigaeth fawr,
O afael angeu du
a'r bedd?
Er griddfan dros brydnawn,
Boddlonir fi yn llawn
Pan welaf Iesu fel y mae:
Gwel'd Iesu fel y mae
Fydd ffynnon lawn, ddi-drai
O anfesurol faith fwynhâd.
Rhyw annherfynol wledd
O gariad llawn o hedd,
Fydd imi ar Ei ddeheu law;
A hyfryd fydd fy nghân
Pan byddaf berffaith lân,
Heb fraw ger bron Ei orsedd bur.
Hugh Hughes 1790-1863
Tonau [668D]: |
Mournful is all my journey
Because of vast oppressions,
Because of the number and strength
of detestable enemies;
Because of fears of every kind,
Because God's face is hidden,
Because of the horror of
completely losing the day.
When will the happy day dawn,
When I may be perfectly free
From my corruption and every wound?
The infinitely wonderful hour
When my great deliverance shall come,
From the grasp of black death
and the grave?
Despite groaning over the afternoon,
I shall be satisfied fully
When I see Jesus as he is:
To see Jesus as he is
Shall be a full, unebbing fount
Of vast, immeasurable enjoyment.
Some unending feast
Of love full of peace,
I shall have at His right hand;
And delightful shall be my song
When I shall be perfectly clean,
Without terror before His pure throne.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|