Gwir elw yw duwioldeb,
A phobpeth ganddi sy
Yn eisiau ar y ddaear
Ac yn y nefoedd fry:
Mae ganddi yr addewid
O'r bywyd sydd yn awr,
A'r hwn sy'n para hefyd
I dragwyddoldeb mawr.
- - - - -
Duwioldeb ydyw'r elw
A phob peth ganddi sy,
Sy'n eisiau ar y ddaear,
Ac yn y nefoedd fry;
Mae ganddi yr addewid
O'r bywyd sydd yn awr,
A'r hwn sy'n para hefyd
Trwy drag'wyddoldeb mawr.
- - - - -
Duwioldeb ydyw'r elw,
A phobpeth ganddi sy,
Sy'n eisieu ar y ddaiar,
Ac yn y nefoedd fry;
Mae'n meddu ar addewid
O'r bywyd sydd yn awr,
A'r hwn sy'n para hefyd
I dragwyddoldeb mawr.
Gwir grefydd sydd yn elw
A'm deil wrth fyn'd ym mlaen:
Ni threulir ac ni thoddir,
Ni losgir gan y tân:
Gwirionedd saif yn gywir,
Yn gadarn iawn bob darn:
Yn gadarn ar y ddaiar,
Yn gadarn yn y farn.
- - - - -
Duwioldeb ydw'r elw,
A phobpeth ganddi sy,
Yn eisieu ar y ddaear
Ac yn y nefoedd fry;
Mae'n meddu ar addewid
O'r bywyd sydd yn awr,
A'r hwn sy'n para hefyd
I dragwyddoldeb mawr.
Gwirionedd, dau ei enw,
Sydd beri ac elw glân;
Ni threulir, ac ni thoddir,
Ni losgir gan y tân;
Gwirionedd saif yn gywir,
Yn gadarn iawn bob darn, -
Yn gadarn ar y ddaear,
Yn gadarn yn y farn.
1: Jane Hughes, Rhydwyn, Môn. (<1890)2: Anhysbys (Cas. D Jones, 1863.)
Tôn [7676D]: gwelir: Gwir grefydd sydd yn elw |
True gain is godliness,
And it has everything
That is needed on the earth
And in heaven above:
It has the promise
Of the life that is now,
And that which is enduring also
For a great eternity.
- - - - -
Godliness is the gain
And it has everything,
That is needed on the earth,
And in heaven above;
It has the promise
Of the life which is now,
And that which is enduring also
Throughout a great eternity.
- - - - -
Godliness is the gain,
And it has everything,
That is needed on the earth,
And in heaven above;
It possesses the promise
Of the life which is now,
And that which is enduring also
For a great eternity.
True belief is a gain
Which upholds me while going forward:
Not to be spent and not to be dissolved,
Nor burned by the fire:
Truth shall stand truly,
Very firmly every piece:
Firmly on the earth,
Firmly in the judgment.
- - - - -
Godliness is the gain,
And it has everything,
That is needed on the earth
And in heaven above;
It possesses the promise
Of the life which is now,
And that which is enduring also
For a great eternity.
Truth, under its name,
Is what endures with holy gain;
Not to be spent, and not to be dissolved,
Nor burned by the fire;
Truth shall stand truly,
Very firmly every piece, -
Firmly on the earth,
Firmly in the judgment.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|